Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/147

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dywedyd y mynnai fyned i ddarostwng Iwerddon. Ac wrth hynny ymgynnull a orug ato holl dywysogion Lloegr a Chymru. Ac yna daeth ato yr Arglwydd Rhys, a'r lle yr ydoedd yn Llwyn Daned, yr wyl y ganed yr Arglwyddes Fair, ac ymgyfeillachu a wnaeth â'r brenin drwy addo tri-chan meirch, a phedair mil o ychen, a phedwar gwystl ar hugain. Ac wedi hynny y dynesodd y brenin i Ddeheubarth. Ac ar yr hynt honno, ar afon. Wysg, y dug ganddo Iorwerth fab Owen fab Cradog fab Gruffydd. Ac o achos hynny y distrywiodd Iorwerth, a'i ddau fab Owen a Hywel a anesid iddo o Angharad ferch Uchtrud esgob Llan Daff, a Morgan fab Seisyll fab Dyfnwal o Angharad ferch Owen chwaer Iorwerth fab Owen, gyda llawer o rai ereill, dref Caer Llion, ac ei llosged hyd y castell, ac y diffeithiwyd y wlad haeach o gwbl.

Ac yna daeth y brenin, a dirfawr lu ganddo, hyd ym Mhenfro, yr unfed dydd ar ddeg o galan Hydref, a rhoddes i'r Arglwydd Rhys Geredigion ac Ystrad Tywi ac Ystlwyf ac Efelfire. Ac yn yr haf hwnnw yr adeilasai yr Arglwydd Rhys gastell Aber Teifi o fein a morter, yr hwn.