Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/149

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

channwr gydag hwynt, i ginio; a Ricert iarll, gŵr a oedd o Iwerddon i ymgyfeillio. â'r brenin (canys o anfodd y brenin y daethodd o Iwerddon); a llawer ereill a giniawsant o'u sefyll Ac yn ebrwydd wedi cinio, esgynnodd y brenin ar ei feirch Glaw mawr oedd yn y dydd hwnnw, a duw-gwyl Fihangel oedd. Ac yna dychwelodd i Benfro. A phan gigleu Rhys hynny, anfon y meirch i'r brenin a orug. Ac wedi dwyn y meirch rhag bron y brenin, cymryd a wnaeth un ar bymtheg ar hugain a etholes, a dywedyd nad er bid yn rhaid iddo wrthynt y cymerasai hwynt, namyn er talu diolch i Rys a fai fwy na chynt. Ac wedi rhegi bodd felly i'r brenin, dyfod a orug Rhys at y brenin, a chael dawn a wnaeth ger bron y brenin, a rhyddhau a orug y brenin iddo Hywel ei fab, a fuasai ganto yn wystyl yn hir cyn na hynny a rhoddi oed a orug y brenin iddo am y gwystlon ereill a ddylai Rhys ei dalu i'r brenin. Ac am y dreth a ddywedwyd fry, yn y delai y brenin o Iwerddon. Parotoi llynges a wnaethpwyd, ac nid oedd addas y gwynt iddynt. Canys amser niwliog oedd, a braidd y ceid yna yd aeddfed yn un lle yng Nghymru.