Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a bu farw Corfog, brenin ac esgob holl Iwerddon, gŵr mawr ei grefydd a'i gardod. Mab i Gulenan a las o'i fodd mewn brwydr. A bu farw Cerwallt, fab Mureson frenin Lnangesy, o geugant ddiwedd. A bu farw Asser, arch esgob ynys Prydain, a Chadell fab Rhodri.

910. Daeth Other i ynys Prydain. Bu farw Anarawd fab Rhodri brenin y Brytaniaid. A diffeithiwyd Iwerddon a Mon gan bobl Dulyn. A bu farw Edelfilled frenhines. A las Clydog fab Cadell gan Feurig ei frawd. A bu farw Nereu esgob. A bu waith y Dinas Newydd.

920. Aeth Hywel Dda frenin, fab Cadell, i Rufain. A bu farw Elen.

930. Llas Gruffydd ab Owen gan wyr Ceredigion. A bu ryfel Brun. A bu farw Hennyrth fab Clydog a Meurig ei frawd. A bu farw Edelstan, brenin y Saeson.

940. Bu farw Abloyc frenin. A Chadell fab Arthfael a wenwynwyd. Ac Idwal fab Rhodri, ac Elised ei frawd, a las gan y Saeson. A bu farw Lwmbert, esgob Mynyw a fu farw. Ys-