iaethau meibion Idwal. A llas Rhodri fab Idwal, a diffeithiwyd Aberffraw. Ac wedi hynny delis Iago fab Idwal Ieuaf fab Idwal, ei frawd, a charcharwyd Ieuaf, ac wedi hynny ei croged. Ac yna diffeithwyd Gwyr gan Einion fab Owen; a diffeithiodd Marc fab Harold Benmon.
970. Diffeithiodd Gothrie fab Harold Fon, ac o fawr ystryw darostyngodd yr holl ynys. Ac yna cynhullodd Edward brenin y Saeson ddirfawr lynges hyd yng Nghaer Lleon ar Wysg. A gwrthladdwyd Iago o'i gyfoeth, a gwledychodd Hywel drwy fuddugoliaeth. A chlefychwyd Meurig fab Idwal, a bu farw Morgan. Ac yna bu farw Edgar, brenin y Saeson. Ac aeth Dwawallon, brenin Ystrad Clwyd, i Rufain. A bu farw Idwallon fab Einion. Ac eilwaith y diffeithiodd Einion Wyr. A diffeithiwyd Llwyn Celynog Fawr gan Hywel fab Ieuaf a'r Saeson. Ac yna daliwyd Iago. A gorfu Hywel fab Ieuaf, a goresgynwys Iago. A las Idwal. Ac wedi hynny diffeithiodd Cystenyn fab Iago a Gotbric fab Harold Leyn a Mon: ac wedi hynny llas Cystenyn fab Iago gan Hywel fab Ieuaf yn y frwydyr a elwir gwaith Hirbarth.