Ffreinc, ar lan afon Rymni. Ac yna llas Macmael Nimbo clodforusaf a chadarnaf frenin y Gwyddyl, o ddisyfyd frwydr; y gŵr a oedd aruthr wrth ei elynion, a hynaws i giwdawdwyr, a gwâr wrth bererinion a dieithriaid. Yna diffeithiodd y Ffreinc Geredigion a Dyfed, a Mynyw a Bangor a ddiffeithiwyd gan y cenhedloedd. Ac yna bu farw Bleiddud esgob Mynyw, a chymerth Sulien yr esgobawd. Yna eilwaith diffeithiodd y Ffreinc Geredigion. Ac yna llas Bleddyn fab Cynfyn gan Rys ab Owen, drwy dwyll drwg ysbrydolion benaethau ac uchelwyr Ystrad Tywi; y gŵr a oedd, wedi Gruffydd ei frawd, yn cynnal yn ardderchog holl deyrnas y Brytaniaid. Ac yn ei ol yntau gwledychodd Trahaearn fab Caradog ei gefnder ar deyrnas y Gwyndyd, a Rhys ab Owen a Rhydderch fab Caradog a gynhalasant Ddeheubarth. Ac yna ymladdodd Gruffydd fab Cynan wyr Iago a Mon, a lladdodd y Gwyndyd Gynwrig fab Rhiwallon. Ac yna bu frwydyr yng Nghamddwr rhwng Goronw a Llywelyn meibion Cadwgan a Charadog fab Gruffydd gydag hwynt, a Rhys fab Owen a Rhydderch fab
Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/33
Gwedd