frwydyr honno a wnaethpwyd yng Nghoed Yspwys. Ac yn niwedd y flwyddyn honno y torres y Brytaniaid holl gestyll Ceredigion a Dyfed, eithr dau, nid amgen Penfro a Rhyd y Gors. A'r bobl a holl anifeiliaid Dyfed a ddygant ganddynt, a gadaw a wnaethant Ddyfed a Cheredigion yn ddiffaeth.
1092. Diffeithodd y Ffreinc Gwyr a Chydweli ac Ystrad Tywi, a thrigodd y gwladoedd yn ddiffaeth. A hanner y cynhaeaf y cyffroes Gwilym frenin lu yn erbyn y Brytaniaid, ac wedi cymryd o'r Brytaniaid eu hamddiffyn yn y coedydd a'r glynnedd, ymchwelodd Gwilym adref yn orwag heb ennill dim.
1093. Bu farw Gwilym fab Baldwin, yr hwn rwndwaliodd gastell Rhyd y Gors. Ac yna gwrthladdodd Brytaniaid Brycheiniog a Gwent a Gwenllwg arglwyddiaeth y Ffreinc. Ac yna cyffroes y Ffreinc lu i Went, ac yn orwag heb ennill dim yr ymchwelasant, ac eu llas yn ymchwelyd drachefn gan y Brytaniaid yn y lle a elwir Celli Carnant. Wedi hynny y Ffreinc a gyffroasant lu y Brytaniaid, a meddwl diffeithio yr holl wlad; heb allu cwblhau eu meddwl, yn ymchwelyd drachefn, eu llas gan feibion Idnerth fab Cadwgan,