y Ffreinc oll, a mawr a bychan, hyd ar y Saeson. Ac wedi na allai y Gwyndyt oddef cyfreithiau a barnau a thrais y Ffreinc arnynt, cyfodi a orugant eilwaith yn eu herbyn, ac Owen ab Edwin yn dywysog arnynt, y gŵr a ddygasai y Ffreinc gynt i Fon.
1096. Ymchwelodd Cadwgan fab Bleddyn a Gruffydd fab Cynan o Iwerddon. Ac wedi heddychu â'r Ffreinc onaddynt, rhan o'r wlad a achubasant Cadwgan fab Bleddyn a gymerth Geredigion a chyfran o Bowys, a Gruffydd a gafas Fon.
Ac yna llas Llywelyn fab Cadwgan gan wyr Brycheiniog. Ac aeth Hywel fab Ithel i Iwerddon.
Y flwyddyn honno bu farw Rhychmarch Ddoeth, mab Sulien esgob, y doethaf o ddoethion y Brytaniaid, y drydedd flwyddyn a deugain o'i oes, y gŵr ni chyfododd yn yr oesoedd cael ei gyffelyb cyn nag ef, ac nid hawdd credu na thebygu cael ei gyfryw wedi ef; ac ni chawsai ddysg gan arall erioed eithr gan ei dad ei hun. Wedi addasaf anrhydedd ei genedl ei hun, ac wedi clodforusaf ac adnewyddusaf ganmol y cyfnesafion genhedloedd, nid amgen Saeson a Ffreinc a chenhedloedd