ai ynte a ddelei yn ei ewyllys ef. A phan gigleu Ernwlff hynny, dewisaf fu ganto fyned yn ol ei frawd. A rhoddi ei gastell a orug i'r brenin, a'r brenin a ddodes warcheidwaid ynddo.
Wedi hynny heddychu a orug Iorwerth â'i frodyr, a rhannu y cyfoeth rhyngddynt. Ac wedi ychydig o amser y delis Iorwerth Feredydd ei frawd, ac ei carcharodd yng ngharchar y brenin. A heddychu a wnaeth â Chadwgan ei frawd, a rhoddi Ceredigion a rhan o Bowys. Ac oddyna myned a wnaeth Iorwerth at y brenin, a thebygu i'r brenin gadw ei addewid wrtho. A'r brenin, heb gadw amod ag ef, a ddug o ganddo Ddyfed, ac a'i rhoddes i neb un farchog a elwid Saer; ac Ystrad Tywi a Chydweli a Gwyr a roddes i ITywel a Gronw. Ac y cyfrwng hwnnw y delit Gronw fab Rhys, a bu farw yn ei garchar.
1101. Wedi dyrchafel o Fagnus frenin Germania hwyliau ar ychydig o longau, diffeithio a orug derfynau Prydain. A phan welas y Prydeinwyr hynny, megis morgrugion o dyllau gogofâu y cyfodasant yn gadoedd i ymlid eu hanrhaith. A phan welsant y brenin ac ychydig o nifer gydag ef, cyrchu yn eofn a orugant, a gosod brwydyr yn ei erbyn. A 'phan welas y