clawdd dan y trothau yn ddirgel heb wybod i geidwaid y castell, yna y daethant i'r castell yr oedd Gerallt a Nest ei wraig, yn cysgu ynddo. A dodi gawr a wnaethant ynghylch y castell, ac enynnu tân yn y tai wrth eu llosgi. A dihuno a orug Gerallt pan gigleu yr awr. Ac yna y dywed Nest wrtho,—"Na ddos allan," eb hi, i'r drws, canys yno y mae dy elynion i'th aros; namyn dyred i'm hol i." A hynny a wnaeth ef. A hi a'i harweddodd ef hyd y geudy a oedd gysylltiedig wrth y castell; ac yno, megis y dywedir, y dihengys. Ac wedi eu dyfod hwyntau i mewn, ei geisio a orugant ym mhob man; ac wedi nas cawsant, dala Nest a wnaethant, a'i dau fab a'i merch, a mab iddo yntau o gariadwraig, ac ysbeilio y castell a'i anrheithio. Ac wedi llosgi y castell a chynnull anrhaith, ymchwelyd a wnaeth i'w wlad. Ac nid oedd Cadwgan, ei dad ef, yn gynddrychol yna yn y wlad, canys ef a aethai i Bowys i heddychu y rhai a oeddynt yn anun, ac a aethent oddiwrth Owen. A phan gigleu Cadwgan y gweithred hwnnw, cymeryd y drwg arno gan sorri a orug ef, o achos y trais a wnaethid â Nest ferch Rys; ac hefyd rhag ofn llidio o
Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/60
Gwedd