Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ac yna daeth Madog a'i frawd yn erbyn Uchtryd hyd yn Rhyd Cornec; ac yno pabellu a orugant. Ac yn y diwedd y daeth Uchtryd atynt; ac wedi eu cynnull ynghyd, cerdded hyd nos a orugant, a diffeithio y gwladoedd oni fu dydd. Ac yna y dywed Uchtrya,—"O rhwng bodd i chwi, nid rhaid hynny; gan na ddylir tremygu Cadwgan ac Owen, canys gwyrda grymus ydynt, a dewrion, ac ysgatfydd y mae porth iddynt hyd nas gwyddom ni, ac wrth hynny ni wedda i ni ddyfod yn ddisyfyd am eu pen, namyn yn eglur ddydd gydag urddasog gyweirdeb nifer." Ac o'r geiriau hynny, bob yn ychydig heddychwyd hwynt, fel y gallai dynion y wlad. ddianc. A thrannoeth y daethant i'r wlad; ac wedi ei gweled yn ddiffaith, ymgeryddu eu hunain a wnaethant, a dywedyd, "Dyma weniaith Uchtryd." A chyhuddo Uchtryd a wnaethant, a dywedyd i neb ymgydymdeithocau a'i ystryw ef. Ac wedi gwibio pob lle yn y wlad, ni chawsant ddim ond gre i Gadwgan; ac wedi cael honno, llosgi y tai a'r ysguboriau a'r ydau a wnaethant; a dychwelyd a orugant i'w pebyll drachefn, a difa rhai o'r dynion a ffoisent i Lanbadarn, a gadael