Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'r wlad. Ynghyfrwng hynny y daeth Owen, ac aeth at y brenin, a chymryd y tir ganddo trwy roddi gwystlon ac addo llawer o arian. A Madog a addewis lawer o arian a gwystlon ac amodau ger bron y brenin. Ac wedi cymryd noddiau, ymoglyd a orug pob un rhag eu gilydd yn y flwyddyn honno hyd y diwedd.

1109. Delit Robert iarll, fab Rosser o Fedlehem, gan Henri frenin, a charcharwyd. A rhyfelodd ei fab yn erbyn y brenin.

1110, Anfones Meredydd fab Bleddyn ei deulu i neb un gynnwrf i dir Llywarch fab Trahaearn i ddwyn cyrch. Yna damweiniodd, fel yr oeddynt yn dwyn hynt drwy gyfoeth mab Rhbirid, nachaf wr yn cyfarfod â hwynt. A dal hwnnw a orngant, a gofyn iddo pa le yr oedd Fadog fab Rhirid y nos honno. A gwadu yn gyntaf a wnaeth y gŵr nas gwyddai ef. Ac oddyna, wedi ei gystuddio a'i gymell, addef a orug ei fod yn agos. Ac wedi rhwymo hwnnw, ysbiwyr a aroisant yno, a lechu a wnaethant hyd oni oedd oleu dydd drannoeth. Ac wedi dyfod y bore, ar ddisyfyd gyngor y dygant gyrch iddo; a