Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IV.

Gruffydd ab Rhys.

[i. Dychweliad Gruffydd ab Rhys i Gymru; y Cymry ieuainc yn ymdyrru ato, o chwant anrhaith y cestyll ac o gariad at eu gwlad. ii. Cwymp Owen ab Cadwgan, ac anrhefn ym Mhowys ar ei ol.]

1112. Ymchwelodd y brenin o Normandi, ac Owen fab Cadwgan gydag ef. A bu farw Ieffrei, esgob Mynyw, ac yn ei ol yntau y daeth gŵr o Normandi, yr hwn a elwid Bernard, yr hwn a ddyrchafwyd yn esgob ym Mynyw gan Henri frenin, o anfodd holl ddysgedigion y Brytaniaid, gan eu tremygu. Ynghyfrwng hynny y daeth Gruffydd fab Rhys Tewdwr, brenin Deheubarth, o Iwerddon, yr hwn a aethai yn ei fabol oedran gyda rhai o'i geraint hyd yn Iwerddon. Ac yna y trigodd oni bu wr aeddfed. Ac yn y diwedd, wedi diffygio o dra hir alltudedd, yr ymchwelodd i dref ei dad. A hwnnw a drigodd amgylch dwy flynedd, weithiau gyda Geralt, ystiward Castell Penfro, ei ddaw gan ei chwaer, a honno oedd Nest, ferch Rhys fab Tewdwr, gwraig Geralt.