o chymerai arno ddal Gruffydd fab Rhys, a'i anfon yn fyw ato ef; ac oni allai ei ddal, ei ladd ac anfon ei ben iddo. Ac yntau, drwy addo hynny, a ymchwelodd i'w wlad. Ac yn y lle gofyn a wnaeth pa le yr oedd Gruffydd fab Rhys yn trigo. A mynegi a wnaethpwyd i Ruffydd fab Rhys ddyfod Gruffydd fab Cynan o lys y brenin, a'i geisio yntau yn ewyllys. Ac yna y dywed rhai wrtho a oeddynt yn trigo gydag ef,—"Gochel ei gynddrychiolder, oni wyper pwy ffordd y cerddo y chwedl." Ac yntau yn dywedyd hynny, nachaf un yn dyfod ac yn dywedyd,—"Llyma farchogion yn dyfod ar frys." A braidd yr aeth ef drwy y drws, nachaf y marchogion yn dyfod i'w geisio. Ac ni allodd amgen na chyrchu eglwys Aberdaron ar nawdd. Ac wedi clybod o Ruffydd fab Cynan ei ddianc i'r eglwys, anfon gwyr a orug i'w dynnu ef o'r eglwys allan. Ac ni adawodd esgyb a henafiaid y wlad hynny, rhag llygru nawdd yr eglwys. Ac wedi ei ollwng o'r eglwys efe a ffoes i'r Deheu, a daeth i Ystrad Tywi. Ac wedi clybod hynny, llawer a ymgynhullodd ato o bob tu; ac yntau a ddug cyrch anhygar aniben ar y Ffreinc a'r Fflemisiaid oni ddarfu y flwyddyn honno.