"Y mae rhywbeth i'w wneud bob amser," meddai'r mynach, gan chwilota yn ei flychau plwm. "Dyma falm o'm heiddo i fy hun a rydd waith siarad i chwi am ei rinweddau. . . . . Golchwch y briw, Remy. . . . . Gwneud busnes â'r anwybodusion y buoch, fy mab, â rhyw wneuthurwyr eli neu fferyllwyr cwac. . . . . Paratowch y rhwymynnau, Remy. . . . . Cyn pen mis mi fynna i weld yn y fan yma graith glws, goch a glân. Estynnwch eich coes a pheidiwch a symud."
Taenasai'r brawd Cyrille ei falm ar glustog o lint, ac yn awr plygai i'w gymhwyso at y briw; ond ataliodd y saethydd ei law.
"Un eiliad," gwaeddai, "yr ydych chwi'n addo i mi wellhad llwyr a buan?"
"Yr wyf yn addo hynny i chwi," meddai'r mynach.
"Dyna oeddan nhw'n ddweyd wrthyf," meddai'r milwr. "Y mae pawb yn dweyd nad oes raid i chwi ond cyffwrdd â'r drwg i'w wella; ond tyngwch wrthyf nad ydych yn defnyddio i'r pwrpas hwnnw na swynion na dewiniaeth?"
Cododd y mynach ei ysgwyddau.
"Tyngwch," meddai'r milwr yn fywiog. "Myn y pum can diawl, 'rydwy'n gristion cywir; a llawer gwell gen i yw colli 'nghoes na cholli f'enaid."
Unig ateb y brawd Cyrille oedd gwneud arwydd y groes â'r glustog eli a dechreu adrodd y Credo mewn llais clir. Arhosodd y saethydd nes iddo orffen, yna rhoddodd ochenaid o ollyngdod, a heb un sylw pellach, estynnodd ei goes i'w thrwsio.
Yr oedd y milwr hwn yn amlwg o natur siaradus tros ben, a thra yr oeddys yn trin ei glwyf, dechreuodd ddweyd ei hanes wrth y brawd Cyrille. Richard oedd ei enw; ond yn ôl arfer milwyr yr oes honno, newidiasai'r enw hwn am ymadrodd