"Dyma hwy!" ebr yr hen wrach fel pe'n siarad â hi ei hun; "mynach mewn oed, moel, a gwas ifanc hefo fo, tuag un ar bymtheg oed . . . . llanc cryf . . . . yn gwisgo fel newyddian."
"Ar f'enaid i, dyna hwy i'r dim," ebr y saethydd wedi synnu mwy fyth.
"Ac 'rwyt ti'n chwilio am danyn nhwy?" holai'r hen wrach.
"A deyd y gwir, fe garai'r arglwydd de Flavi wybod ple mae nhwy."
"A faint a rydd o, os dweda i hynny wrtho fo?"
"Mi wyddost, felly, ple mae nhwy?"
"Beth pe bawn i 'n rhoi'r mynach a'i gydymaith yn 'i law o?"
"Ym mhle?"
"Yma, yn y fan a'r lle."
"A ydyw hynny'n bosibl?" gwaeddai Exaudi Nos. "Beth! A fedar grym dy ddewiniaeth di ddod a hwy yma . . . ."
"Dim ond i ti roi i mi'r ddau ddarn aur a dalodd yr arglwydd de Flavi i ti," ebr brenhines Neuville, gan estyn ei llaw rychiog.
"Ha, mi wyddost hynny hefyd!" ebr y saethydd, a synnu mwy eto; ac wedi tynnu'r arian o wregys ei ddillad lledr: "O'r goreu, hwda . . . . a gad i mi weld a fedri di gyflawni d'addewid."
Cuddiodd yr hen wrach y darnau aur yn ei mynwes; yna dechreuodd droi a murmur geiriau dieithr a ffurfio â'i gwialen gylchau dewiniaeth. Fel yr âi ymlaen i lefaru, fe ddeuai'n amlwg fod sŵn ei llais hi ei hun yn codi math o bendro arni; rhedai o gylch yr ystafell, curai'r crochanau soniarus â'i gwialen haearn, a gwaeddai'r geiriau cabalistaidd: