Tudalen:Bugail Geirf Lorraine.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwn gyfamod â Henri V, brenin Lloegr, i'w gynorthwyo. Priododd hwnnw Catherine, merch hynaf brenin gwallgof Ffrainc. Gwraig hollol ddiegwyddor oedd mam hon, sef gwraig y brenin gwallgof; cymerodd hi ochr ei mab yng nghyfraith a'i merch yn erbyn ei mab ei hun; ac i geisio dinistrio ffydd y Ffrancod ynddo, tyngodd yn ddigywilydd nad ei gŵr oedd ei dad. Yr oedd y tywysog ei hun wedi hanner gredu'r stori hyd nes i Jeanne ei hysbysu fod y Llais yn dweyd nad oedd sail iddi, ac mai efe yn wir oedd etifedd coron Ffrainc. Er y stori a phopeth, parhaodd yr Armaeniaciaid yn ffyddlon iddo, ac yn y diwedd, trwy gymorth Jeanne D'arc, coronwyd ef yn frenin Ffrainc dan y teitl Siarl VII yn eglwys gadeiriol Reims ym mis Gorffennaf, 1429.

3 TALEITHIAU (Chapelets): Yng nghadwyn y rosari ceir gleiniau bach a mawr bob yn ail; wrth fynd tros y rhai mawr dywedir y pader, a'r ave Maria wrth fynd dros y rhai bach.

4 CARMELIAID: Urdd o "frodyr" yn byw ar elusen ac yn cymryd eu henw oddiwrth Fynachlog Mynydd Carmel.

5 ROMÉE: Enw myg a feddai mam Jeanne am ei bod hi, neu un o'i hynafiaid, wedi bod ar bererindod yn Rhufain; felly adweinid hi wrth yr enw Isabeau Romée, a gelwid ei gŵr yn Jacques D'arc. Gelwid y Forwyn enwog yn Jeanne Romée ar ôl ei mam ac yn Jeanne D'arc ar ôl ei thad. Seinied y Cymro'r enw yn Jeann Darc.

6 ANTURIAETHWYR ARFOG (aventuriers armés): Anaml y telid cyflog nac y darperid ymborth i filwyr yn y cyfnod hwn: rhaid oedd i fyddin fyw ar y wlad lle yr ymladdai.