Tudalen:Bugail Geirf Lorraine.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

15 GODEMIAID: y llysenwid milwyr Lloegr yn Ffrainc, oddiwrth air sydd eto ymhell o fynd o'r ffasiwn ymhlith milwyr Prydain Fawr.

16 IDDEWON: Credid y pryd hwnnw y byddai'r Iddewon yn arfer aberthu plant Cristnogion. Er na byddent hwy'n gwneuthur hynny ymddengys y byddai dewiniaid yn euog o anfadwaith felly.

17 LLYFR CHAULIAC: Llyfr meddygol mwyaf safonol yr oes honno, yn cynnwys adran bwysig ar ddifyniaeth neu anatomi.

18 £: Meddyg Groegaidd enwog o'r ail ganrif.

19 SEREIN, CURE: Afonydd yn ymarllwys i afon Yonne, a hithau yn ei thro yn aberu yn y Seine.

20 CROGI BANIAR AR Y GONGL: Une bannière sur mon pignon, arwydd methdaliad.

21 Vade retro: Lladin, "Dos yn fy ôi i."

22 SENESGAL: Math ar farnwr rhanbarth yn gweinyddu cyfiawnder dros y brenin.

23 CORTYNNAU CROGi (cordes de pendu): Ymddengys bod cred hyd heddyw ymhlith y werin yn Ffrainc fod darn o gortyn a ddefnyddiwyd i grogi troseddwr yn dwyn lwc i'w berchennog. Gwelodd y cyfieithydd hefyd unwaith ddarn o gantel het merch a lofruddiasid yn cael ei drysori gan Gymro.

24 CRYS SWYN (une chemise de sûrete): Yn llythrennol, crys diogelwch.

25 Refugâ Pecuniâ: "Refugâ," o'r ferf Ladin refugere, dianc yn ôl; "pecunia" yw'r gair Lladin am arian. Credid yr adeg honno y gellid witsio arian nes peri iddynt ddychwelyd yn ôl ohonynt eu hunain i bwrs