Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

edrychiad â'i wisg neilltuol, a'i ddull neilltuol o gerdded. Cai'r meddwl grwydro'n hamddenol o gylch hanes pob un fel y deuai. Cyn amser dechreu'r gwasanaeth, yr oedd tyrfa fechan lonydd wedi dod ynghyd, ac anadl pob un yn y distawrwydd yn esgyn fel arogldarth i'r nefoedd. Y noson honno, yr oedd mwy nag arfer o ddisgwyliad yn llygaid y praidd bychan. Daethai Bugail newydd i'w plith, a hwn fyddai ei gyfarfod gweddi cyntaf yn y lle. Yn y pwlpud y gwelsid ef ar y Sul, a rywfodd, pell iawn. yw dyn mewn pwlpud oddiwrth nifer fawr o'r gynulleidfa. Heno, caent olwg gliriach arno. Deuai ychydig yn nes atynt, a chai y rhai a fyddai yno mewn pryd ei weld yn dod i mewn.

Ddwy funud cyn hanner awr wedi chwech, caed y pleser hwnnw. Daeth y gweinilog ieuanc i mewn drwy'r drws â'i het yn ei law; taflodd un olwg hanner ofnus ar y gynulleidfa, a cherddodd yn flinderus at ei sedd o dan y pwlpud. Tra yr eisteddai yno am funud mewn myfyrdod â'i law ar ei lygaid, gwelai y rhai oedd gerllaw iddo y chwys yn dew ar ei dalcen.

Ieuanc iawn oedd. Daethai'r newydd o'i flaen nad oedd ond pedair ar hugain. Ond heno, gwelodd llawer llygad aml flewyn gwyn yn gymysg a'i wallt tywyll. Yr oedd ei wyneb fel pe wedi ei fwriadlu i chwerthin llawer, ac yr oedd ei gorff heini fel pe wedi ei drefnu i deithio yn amlder ei rym drwy'r byd. Yr oedd ei lygaid, yn wir, fel pe wedi eu gorfodi i edrych yn ddwys ar ol disgyblaeth galed. Cawsent eu gwasgu lawer gwaith fel yn awr i'w cadw yng nghau, ac yr oeddent eto yn llawn cwestiynau dolefus, fel eiddo plentyn na ddeall ystyr ei gosb, er wedi ei ddysgu i gredu fod triniaeth ei dad tuag ato yn iawn. Yr oedd y dyn icne yn gloff, ac hyd yn hyn, methasai a chyfrif ei gloffni yn beth dibwys a hawdd ei ddioddef yn ei fywyd.

"Dy'st'rio!" ebe Nani, Penlôn,—un o'r ddwy hen wraig eisteddai yn un o'r seddau canol—yn hanner clywadwy, â'i llygaid hen yn llaith gan ddagrau.

Trodd Sali olwg geryddol arni, am iddi feidklio dangos teimlad yn gyhoeddus felly. Lledodd hithau ei haeliau, a sychodd ei genau â'i chadach gwyn, glân, fel y gwnai ar amgylchiadau o brudd—der neilltuol neu o wir ddefosiwn.