A'r noson honno, fel ar lawer tro arall, rhwng muriau. llwydion capel bach Y Bryn, yn swn ymadroddion anghelfydd yr hen dyddynwr, aeth y byd a'i bethau ymhell o'r golwg, a daeth Duw yn agos.
Nid oedd y cyfarfod eto ar ben. Buasai Dafi Dafis yn ofalus i gadw'r dawn cryfa'n olaf. Cyn i Daniel Jones orffen, yr oedd Tomos Bŵen wedi clirio'i. wddf a sychu ei wyneb fel ag i fod yn barod, ond wedi clywed llais crynedig yr hen ddiacon yn ei alw, barnodd Tomos yn weddus betruso lawn dwy funud, a gostwng ei ben gan sydynrwydd y peth cyn beiddio penderfynu. Yna cododd, a cherddodd ymlaen yn wrol.
Ym mywyd Tomos Bŵen, Y Mwyndir, fel ym mywydau. rhan fwyaf o honom, yr oedd rhai pethau hollol annealladwy. Yr oedd yn awr dros ei hanner cant oed, yn "enau cyhoeddus" neilltuol o gymeradwy yng nghapel Y Bryn er's deng mlynedd a mwy; er's blynyddau lawer yn byw ar ei fferm ei hun ac yn berchen un arall, eto ni welsid yn dda agor drws y ddiaconiaeth iddo. Dyma gyfle iddo heno i ddwyn ei ragoriaethau neilltuol gerbron y gweinidog newydd. Nid oedd yn hollol amharod, oherwydd, yn ystod y dydd, tra yn yr ydlan yn gyrru'r ceffylau a weithiai'r peiriant dyrnu, cawsai gyfle i adrodd wrtho'i hun eiriau'r weddi a fwriadai offrymu os deuai'r alwad. Tra felly yn arllwys ei genllif geiriau, clywodd ei glustiau effro un ochenaid ddofn oddiwrth y gweinidog, a mwy nag un Amen o gyfeiriadau ereill.
Wedi canu drachefn, plygodd yr hen Ddafi Dafis ei ben gwyn i gyfeiriad y gweinidog, ac yn hanner—ofnus, sibrydodd air yn ei glust. Yna distawodd pawb i wrando ar y Bugail. Byr a syml oedd ei eiriau, a distaw a threiddgar oedd ei lais. Mor fawr oedd eu braint i gael dechreu blwyddyn arall,—dalen wen na wyddid eto beth a ysgrifennid arni. O am ysgrifennu yn lân ac eglur fel y gellid ei darllen ar y diwedd gyda mwynhad! Dechreu blwyddyn yn ddechreu cyfle newydd i wneud rhywbeth yn y byd,—i helpu Duw ddwyn i ben Ei fwriadau tragwyddol. Cyd-weithwyr Duw! Uched y fraint! O, orfoledd y syniad! Pa lawenydd fedrai'r ddaear roi i gymharu a hwnnw oedd i'w gael yng ngwasanaeth Duw? Ac wrth ddechreu blwyddyn, i wynebu