un ei chyfreithwyr, i'w cyfarwyddo ynghylch mân bethau'r gyfraith, fel y gallent fynd belled ag oedd bosibl er eu lles eu hunain heb droseddu'r gyfraith. Ym mysg pethau ereill, dysgwyd hwynt na feddai yr un atafaelydd hawl i dorri clo drws neu glwyd, nac ychwaith ddringo ffordd arall er mwyn gosod' ei law ar nwyddau neu anifeiliaid. Felly, pe gofelid cloi'r clwydydd a arweiniai at y fferm, gellid teimlo'n ddiogel. Eithr lle'r oedd mynych dramwy, anodd oedd gwneud hyn, ac os llwyddid i gadw'r anifeiliaid o'r golwg, yr oedd y gwair a'r ŷd mewn man digon amlwg fynychaf.
Er ei gloffni, medrai Owen Elis gerdded yn gyflym, yn enwedig pan na fyddai neb gerllaw i edrych arno. Cyrhaeddodd Maesyryn a'i anadl yn ei wddf, pan oedd y teulu ar ginio.
"Helo ma," ebe ef, gan gerdded i mewn i'r gegin. "Mi redais i roi gwybod i chi fod y Beiliaid ar eu ffordd yma. Rwy'n teimlo'n siwr mai hwy oedden nhw. Fe fuon yn gofyn y ffordd i fi, ac mi cyfeiries nw drw'r pentref. Mi gewch amser i gloi, ond i chi frysio."
Cyn iddo orffen, yr oedd Morgan Ifans ar ei draed, ac yn galw ar y Sais o'r 'rwmford.'
"Fred, rhed i hol y tshaen o'r cartws. Dere a'i lan i'r iet goch," ac allan ag ef cyn cael amser i ddiolch i'r gweinidog.
"Mr. Elis bach, i chi wedi rhedeg sbo chi'n whîs. Sdim yn ormod da chi neid os gallwch chi neid cimŵinas," ebe Mrs. Ifans yn araf leddf. "Eisteddwch gal ych anal. Ann, rho ddiferin o ddwr yn y tegil. Odich, ginta, wedi cinhawa, a phe na fisech chi, sdim pŵer o flas ar y tato ma heddi. Gewch ddised o de nawr. W i'n leico dised yn hinan ar ol cino. Dere, Ann, a'r tegil."
Ni sylwasai Mrs. Ifans yn y cyffro fod Ann wedi rhedeg allan, ac wedi dilyn ei thad at yr iet. Leisa'n unig oedd ar ol yn y rwmford, ac yr oedd erbyn hyn wedi brysiog ddatod plethiad ei gwallt, ac wedi ei drefnu oreu medrai dan yr amgylchiadau. Yr hyn a'i blinai oedd mai ffedog waith oedd o'i blaen. Pam na fuasai wedi gwisgo ffedog wen fel y gwnai bob dydd cyn eistedd at giniaw. Nid oedd modd dod o hyd i honno yn awr heb ddangos ei hun i'r