papir hefid i addo na werthwn i mo'r fiwch nes delen nw i hol i. Dîn yn sharad yn neis we'r din, a'r hen gifreithwr bach hefid, we'r ddoi'n ddigon boneddigedd.
"Hm!" llefai Anna Ifans, "fe seinech chi'ch pen i bobol ond cal e'ch galw'n syr yn ddigon amal am hinni." "Pam na dalech chi te? Fuase hynny ddim yn well?" gofynnai Mr. Elis.
"Weda i chi, fel hin mai," ebe Morgan Ifans. "Rin ni fel Indeb wedi citino i ddangos e'n gwrthwinebiad i'r Degwm trw beido tali,—trw roi'r ffwdan iddin nhw i streino, a gwerthi'r nifel nei'r nwidd, a mind ag e gered. Os bidd acshon ma, dos ma neb trw'r cimdogeithe a feiddie ginnig ar ddim. Gist iddin nw ddod' a'i prinwir gida nhw. Teit fidd i armin nw wedyn i gali harian."
"Beth yw'r rheswm ynte, fod pobol wedi talu'n ddiddig ar hyd y blynydde, a nawr yn protesto?" gofynnai Mr. Elis. "Rhai anodd i'n symud i ni fel ffermwrs, chi. Ma'n well da ni odde pwer o bethe na chiffro'n hinen i wrthwinebi, nes eith i'n rhi galed. Fel ni mai nawr. Fio dim fath amser slac ar bopeth es tro. Ma'r landlordied i gid wedi gistwn rhiw gimint ar y rhenti; pe bise'r ffeirad bach wedi gistwn tipin ar y degwm fel gofinnwd iddo, fise dim rhagor o helger yn bod. Nawr trw ffwdan ceith e ddim."
"Ie, ac am beth mai e yn i cal nw?" gofynnai Anna Ifans.
"Ie, anghyfiawnder yn ddiau yw'r Degwm yng Nghymru nawr," ebe Mr. Elis, "a cheir dim gwared ar unrhyw anghyfiawnder heb i rywrai ymladd. Dw i fawr o ymladdwr— nawr, ond yn wir, mae 'nghydymdeimlad i gyda'r rhai sy'n ddigon gwrol i neud hynny."
"Wês, wês, ma raid wmla," ebe Morgan Ifans, "a wmla gewn ni'n hir wi'n onfi. Cadw'r ffermwirs ar lawr dan i trâd nhw iw amcan y gwir mowr, welwch chi, a ma'r cifreithe a'r Lliwodreth wedi bod ar i hochor nw ariod.
"Ie, a o ble ma'r hawl wedi dod iddin nhwi i lhordian i ar gefne pobol dlawd si'n gweithio'n galed?" gofynnai Anna Ifans.
"Ie, o ble? Oes, ma'n rhaid ymladd," ebe'r gweinidog yn fyfyrgar.
O hynny nes codi oddiwrth y bwrdd tê, yr oedd ei feddyl-