V.
Nad i ferch newidio foes!
—DAFYDD AP GWILYM.
ER bod yn agos i bedwar mis wedi mynd heibio er pan ymsefydlasai y Parch. Owen Elis yng Nghwmgwynli, ni ddaethai, hyd yn hyn, i gyffyrddiad a'r oll o aelodau ei eglwys. Yr oedd, ym mysg y rhai a'i gwrandawai bob Sul, lawer heb erioed gael cymaint ag ysgwyd llaw ag ef. Atgofiwyd ef o hyn tra'n dychwelyd wrtho'i hun drwy'r caeau y diwrnod hwnnw o Faesyryn. Gwelai ar y dde, ddwy neu d'air o ffermydd bychain, ac un neu ddau fwthyn tô gwellt, a gwyddai fod eu preswylwyr o nifer ei braidd. Sylwai ar y meysydd llwm y casglent ohonynt eu bara beunyddiol, ac ar y llwybrau anhygyrch a deithient o Sul i Sul i foddion gras, a chyhuddai ei hun o ddiofalwch yn ei waith fel Bugail. Cofiai amled yr ymwelai a Maesyryn, a ffermydd ereill cyffelyb, yn unig am fod y teuluoedd hynny yn flaenllaw gyda gwaith y capel. Am yr ereill hyn, rhai o'i braidd fel y Neill, er yn ddinod, leied wyddai o'u helyntion beunyddiol. Penderfynodd gychwyn yn gynnar drannoeth, ac er nad oedd ymweled yn waith hoff ganddo, penderfynodd na ddiffygiai nes dod i adnabod ac i ddeall ychydig ar fywyd y distadlaf fel y mwyaf ymhlith aelodau ei eglwys.
Drannoeth, drwy gydol y bore, disgynnai glaw Ebrill yn d'dibaid ar y ddaear, ond erbyn canol dydd, cliriodd yr awyr a chychwynodd y pregethwr i'w daith. Garwach a gwlypach nag arfer y diwrnod hwnnw oedd yr heolydd culion a arweiniai o un fferm fechan i'r llall. Wrth flin ym— lwybro drwyddynt, deuai llwybrau tebig, rhai dramwyasai ganwaith ym more oes yn fyw iawn i feddwl Owen Elis, ac ym miwsig leddf yr awel, yn gymysg a lleisiau pell o'r gorffennol deuai sibrydion dwys o'r dyfodol i chwarae ar ei glustiau. Yng nghwmni Natur—natur lawn ieuengrwydd a hoen, ond hefyd lawn o ryw ddwyster mwyn, canfyddai ddarlun o'i fywyd ei hun. Ieuanc oedd yntau, ac fel y