Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/158

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gall pawb ddeall fod ei argyhoeddiad yn rhyfedd, pan ystyrir iddo orfod rhoddi i fyny yr ysgol o'r herwydd, a myned adref at ei rieni. Dychwelodd at yr ysgol drachefn yn ddyn newydd yn Nghrist Iesu. Wrth ei weled a'i glywed yn un mor hynod gyda chrefydd, cymhellwyd ef i ddechreu pregethu. Ei destyn cyntaf oedd y geiriau "Crist yw yr hwn a fu farw." Llwyr ymroddodd ar unwaith i'r gwaith mawr. Pan oedd ef a Thomas ei frawd yn cael eu derbyn yn aelodau o Gyfarfod Misol eu sir, dywedai y Parch. David Jones, Llangan, yr hwn ar y pryd oedd yn byw yn Manorowen, "Y mae y ddau fachgen hyn yn pregethu fel dau angel." Yn y flwyddyn 1806, symudodd i Aberteifi, i fod yn athraw teuluaidd yn nheulu Major Bowen, Llwyngwair, yr hwn oedd yn byw ar y pryd yn Aberteifi. Yn 1809, priododd â Miss Mary Williams, unig ferch Mr. William Williams, Tregaron; yr oedd hon yn wyres i'r hen gynghorwr David Evan Jenkins, o Gyswch, heb fod ymhell o Llanddewibrefi. Bu yn frwydr galed rhwng Aberteifi a Thregaron am beth amser ynghylch cael Mr. Richards i fyw atynt. Yr oedd ei ddefnyddioldeb yn cael ei deimlo mor fawr yn nghylchoedd Aberteifi, fel na fynent er dim golli ei wasanaeth; ond Tregaron orfyddodd. Cyn diwedd y flwyddyn, penodwyd ef yn ysgrifenydd Cyfarfod Misol y sir, swydd a gyflawnodd yn ffyddlawn hyd derfyn ei oes. Yn 1813, etholwyd ef yn Ysgrifenydd Cymdeithasfa y Deheudir, a bu yn y swydd hon hefyd hyd ddiwedd ei oes.

Yr oedd ef yn un o'r rhai a ordeiniwyd gyntaf gyda'r Methodistiaid yn y Deheudir yn 1811. Yn y diwygiad mawr fu yn 1811-12, yr oedd yn pregethu yn Llangeitho, oddiar Luc xvi. 23, gyda'r fath nerth ac arddeliad dwyfol, fel y dwysbigwyd cynifer ag 28 o eneidiau, y rhai oll a briodolent eu hargyhoeddiad i'r bregeth ryfedd hono. Tua'r adeg hon, cafodd fwy nag un cymhelliad i droi yn offeiriad o Eglwys Loegr, ond gwrthododd yr oll yn ddibetrus. Atebodd Mr. Jones, Derryormond, yn yr ymadroddion cadarn hyn, "Y mae y peth yn anmhosibl, Syr." Gofynodd hwnw, "Paham ?" Ei atebiad oedd, "Byddai rhoddi derbyniad i'r cynyg, yn gyntaf, yn weithred gwbl groes i'm cydwybod, oblegid yr wyf o egwyddor