Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

na chwarddai wrth eich clywed yn gorchymyn cadw cyfraith ydych yn ei sathru dan eich traed eich hunain. Ystyria dy hun rhag dy demtio dithau,' yw y gorchymyn i'r rhai ysbrydol." A dywedir iddo wneyd llawer o les ar y pryd. Gwr mawr corfforol ydoedd, garw ei wedd, a golwg fawreddog arno, Sabbath ac wythnos; cerddai yn syth, ac yn fynych rhoddai ei ffon yn groes i'w gefn wrth gerdded, gan ymaflyd ynddi â'i ddwylaw. Gwisgai whig fawr yn fynych, yn ol yr hen ffasiwn Biwritanaidd. Claddwyd ef yn mynwent Eglwys ei blwyf, sef Nantcwmlle, yn y flwyddyn 1810.

PARCH. ABEL GREEN, ABERAERON.

Ganwyd ef yn Aberaeron, tua'r flwyddyn 1816. Mab ydoedd i Mr. William Green, blaenor enwog yn y dref, y sir, a'r Cyfundeb, yr hwn y mae ei enw hefyd mewn cysylltiad â dechreuad tref Aberaeron, a chodiad y pier. Saer maen oedd Mr. W. Green, a ddaeth yma o dref Aberystwyth i adeiladu y pier yn 1809; a daeth Miss Thomas, ei briod, yma o Castellnewydd i werthu nwyddau i'r adeiladwyr. Y rhai hyn oedd tad a mam y Parch. Abel Green. Cododd y tad dŷ iddo ei hun ar lease, yr hwn sydd er's blynyddoedd bellach yn ystordy ac office i'r Steam Navigation Company. Yma y ganwyd y pregethwyr rhagorol, Mri. Thomas ac Abel Green. Bu y cyntaf farw yn ieuanc iawn, a dywedir ei fod yn un o'r pregethwyr mwyaf gobeithiol a gododd yn y sir. Codwyd y Parch. Abel Green i fyny i fod yn fferyllydd, a bu am rai blynyddoedd yn y man mwyaf cyhoeddus yn y dref, ac yn gwneyd gwaith mawr a thrafnidiaeth helaeth. Yr oedd crefyddolder ef ysbryd, a'i wybodaeth Ysgrythyrol a duwinyddol, yn ei wneyd yn wrthddrych sylw y dynion goreu, y rhai oedd yn gweled yddo ddefnyddiau pregethwr, a hyny er yn ieuanc. Dechreuodd bregethu rywbryd tua 22 oed, a daeth mor addawol ac amlwg o ran ei ragoriaethau, fel y cafodd ei ordeinio yn Aberteifi yn 1847. Yr oedd dullwedd ei bregethau, a'i fywiogrwydd yn eu traddodi, ynghyd a'i wybod aeth gyffredinol helaeth, yn ei wneyd yn boblogaidd ymhob lle yr elai. Yr oedd ei barch yn cynyddu yn gyflym fel masnachydd ac