Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Digon i ti fy ngras i;" a'r Hwn a ddywedodd wrth Aser, "Megis dy dyddiau y bydd dy nerth."

Ni buasem yn cofnodi yr hanes hwn am Mr. Green, oni b'ai ei fod yn dangos y "ffordd sydd yn y môr," mor bell ag ei hamlygir i ni, yn dangos gallu cynaliaethol Duw i'w bobl, ac yn eu dangos hwythau, wedi eu profi, yn dyfod allan fel aur. Ni fyddai hanes Abel Green yn hanes iddo ef o gwbl hebddo, yn fwy nag y byddai hanes Moses felly heb ddeugain mlynedd tir Midian. Bu ei galedi ef a'i deulu yn Liverpool yn foddion dyrchafiad mawr iddo. 1. Profodd ei onestrwydd a'i gywirdeb yn ngwyneb methiant ei amgylchiadau yn flaenorol i hyny. 2. Enillodd y fath gymeriad fel gweithiwr ymroddgar i dalu ei ffordd, ac fel crefyddwr da, "fel y gwelwyd," fel y dywedai un wrth ei adferu, "mai mwy o anrhydedd i grefydd oedd ei adferu i'r weinidogaeth, na phe buasai yn cael ei gadw yn ol yn hwy." 3. Galwyd ef yn ol i egiwys y Tabernacl, i fod yn fugail iddi, yn ei dref enedigol, a'r dref lle methodd. Mae yr holl symudiadau hyn yn dystiolaethau eglur i gymeriad y dyn a'r Cristion, er yr holl brofedigaethau y gorfu arno fyned trwyddynt. 4. Daeth i fyny i'w barch cyntefig yn y sir, os nid yn uwch mewn parch nag y bu erioed. Yr oedd yn pregethu yn well nag erioed, gan ei fod yn fwy profiadol, yn fwy nerthol, ac yn fwy adeiladol. Nid oedd ef yn boddloni ar fod yn fferyllydd cyffredin pan ddysgodd yr alwedigaeth, ond astudiodd hi mor dda fel yr oedd ganddo wybodaeth feddygol helaeth. Gwnaeth les mawr i lawer mewn afiechyd cyn iddo fyned o Aberaeron, a gwyddai llawer am ei wybodaeth a'i fedrusrwydd, fel na chafodd lonydd wedi dyfod yn ol. Yr oedd llawer yn ymofyn âg ef yn y dref a thrwy y wlad, ac yntau yn rhoddi cyfarwyddiadau i bawb yn rhad ac am ddim. Yr oedd felly yn gallu bod yn ddefnyddiol i gleifion mewn dwy ystyr. Nid oedd yn ail i neb fel bugail, yn ei ofal am bawb, yn ei fedrusrwydd i gadw cyfarfodydd, ac yn ei graffder i weled pa beth a ddylai ef a'r eglwys ei wneuthur. Pan ranwyd y sir yn ddau Gyfarfod Misol, efe a etholwyd yn ysgrifenydd yr un Ddeheuol, ac yr oedd yn gaffaeliad mawr i gael un o'i fath. Yr oedd yn bre-