Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ystafell y Diaconiaid. — Yma y bydd y diaconiaid yn cwrdd â'u gilydd i ymdrin ag unrhyw faterion pwysig cyn dechreu y gwasanaeth cyhoeddus ar y Sabboth. Yma hefyd y bydd materion arianol ac eglwysig yn cael eu trafod; ac yma y cynnelir cyfarfodydd misol yr Undeb Cristionogol ac Undeb Dorcas Yma y cynnelid y Dosparth Beiblaidd. Cyfarfodydd Llenyddol y bobl ieuainc, ar Gyfeillach Fach.' Y mae yr ystafell hon yn wir bwysig. ac yn un gyfleus dros ben. Y nesaf a gawn nod yw —

Ystafell y Menywod—Mae hon yn cael ei defnyddio ar yr adegau pan y byddys yn bedyddio, a defnyddir hi y prydiau hyny fel gwisgle neu robing room i'r merched a'r gwragedd Y nesaf yw—

Ystafell y Gweinidog. Mae hon yn hollol at wasanaeth y gweinidog, ac yn meddu pob darpariaeth ag a duedda i'w wneyd yn gysurus. Mae yn deilwng o sylw fod yr holl ddodrefn sydd yn yr ystafell hon wedi eu rhoddi i'r gweinidog gan rai o wir gyfeillion Calfaria.

Calfaria Hall.–Mae ugeiniau a channoedd o ddyeithriaid yn dyfod i weled Calfaria Hall, a thystiolaeth pawb yw mai hon yw y neuadd eangaf a'r mwyaf cyfleus yn Nghymru. Heblaw y brif ystafell, mae yn perthyn i'r neuadd ddwy oriel at wasanaeth y plant. class—room i ferched ieuainc, ystafell hollol gyfleus at gadw llyfrau yr Ysgol Sul, yn nghyd â lle digon mawr i gadw yr holl lestri perthynol i'r eglwys. Mae cyssylltiad rhwng yr ystafell fawr hefyd â'r dwfr a'r tân, ac felly yn hynod gyfleus ar adegau ein gwleddoedd tê, ac amgylchiadau ereill; ac y mae cyssylltiad rhwng Calfaria Hall â phob rhan o'r capel. Mae yn anhawdd cael capel mor gyfleus ag ydyw capel Calfaria."

Yn Seren Cymru am Tachwedd y 24ain, a Rhagfyr 1af, 1871, ceir hanes cyflawn a manwl am y cyfarfodydd agoriadol, y rhai a gynnaliwyd am ddau Sabboth yn olynol, a chafwyd cyfarfodydd gweddio yn y nosweithiau cydrhyngddynt. Pregethwyd yn rymus yn ystod y cyrddau gan rai o brif weinidogion yr enwad yr adeg hono.

TRYDYDD AGORIAD CALFARIA AC AGORIAD CYNTAF NEUADD CALFARIA.

"Mewn cyssylltiad â'r agoriadau hyn, bwriedir cynnal cyfres o gyfarfodydd yn y drefn ganlynol:— Dydd Sul, Tachwedd 12, 1871. am 11, cyfarfod gweddi a Swpper yr Arglwydd; am 2, cyfarfod gweddi yn Neuadd Calfaria; am 6, cyfarfod gweddi yn Nghalfaria. Nos Lun, Mawrth, Mercher, Iau, Gwener, a Sadwrn, Tachwedd 13, 14, 15, 16, 17, a 18, bydd cyfarfodydd gweddi, pan y mae gweinidogion cymmyd-