Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn mygu oedd yr achos trwy y blynyddoedd hyn Dibrisiwyd yr Ysgol Sabbothol ac o dipyn i beth aeth yr ysgol i'r dim yn hollol. Tua diwedd y flwyddyn 1845 rhoddodd Mr W. Lewis ei lafur gweinidogaethol i fyny. a symmudodd i Dongwyrddlas: ac yn y mis Awst canlynol, daeth Mr T. Price, gweinidog presenol Aberdar, i ofalu am yr eglwys, yn nghyd a'r gangen yn Mountain Ash er na chafodd ei ordeinio yn weinidog hyd y dydd cyntaf yn y flwyddyn 1846. Llafuriodd Mr. Price yma yn ddiwyd a diflino am yn agos i bedair blynedd, heb ychwanegu cymmaint ag un at yr eglwys. Byddai yn pregethu yma un Sabboth o bob mis, ac yn aml yn fynychach na hyny, am ychydig iawn o gydnabyddiaeth am ei lafur Teimlai yn ddwys, fel y byddai yn arfer dweyd, wrth weled ei lafur mor aflwyddiannus yn methu ychwanegu dim un at yr eglwys; ond yn hyn, meddai efe, yr ymgysurai, nad oeddynt yn myned yn llai. Deuddeg oeddynt pan ddechreuodd lafurio yn eu plith, ac ni fuont oll yn llai na deuddeg. sef pedwar brawd ac wyth chwaer "

Arferai y Dr. pan yn myned i Mountain Ash i bregethu, a byddai hyny flynyddau yn ol yn dygwydd yn aml, adrodd hanes yr eglwys fach yn y Mount, fel y galwai hi. "Buom am hir amser (meddai), yn cadw, fel yr Apostolion, o hyd yn 12, oddigerth yn amser ffair y Mount, pryd yr oedd Shon Ty'n y Gelli yn meddwi, felly yn cael ei ddiarddelu a'i. adferyd unwaith bob blwyddyn. Fel yma, gwelwch nad oedd yr Yspryd Glân yn ein gwneyd yn fwy nâ 12, ac yr oedd y d-lyn methu ein gwneyd un amser yn llai nag 11. Clywsom ef yn adrodd yr hanes droion yn y geiriau uchod mor agos ag ydym yn gallu cofio. Dywedai yr hanes mor fyw a chyda y fath deimlad fel y gyrai yr hen bobl i wylo y dagrau yn lli`, a'r bobl ieuainc i grechwen a chwerthin. Mawr oedd ei allu i ddarlunio a'r dylanwad gai pan yn gwneyd hyny. Yn y cyfnod marwaidd ar grefydd y soniwn am dano, yr oedd Price yn egniol iawn gyda'i gyflawniadau gweinidogaethol. Nid esgeulusai y praidd bychan; mynychai yn gysson y cyfeillachau a'r cyrddau gweddi, er fod pedair milldir o ffordd o Aberdar i Mountain Ash, a dychwelai yn ol i Aberdar ar ol y cyrddau ar hyd y ffordd drymaidd, a thra unigol y pryd hwnw. Adroddai hen bobl y Mount ei hanes yn y cyfarfodydd hyn gyda blas a hwyl; a buom yn siarad â'r Dr. ei hun ar hyn, ac yr oedd ei adroddiadau yn cydgordio yn gywir â'r hyn a glywsom. Bu ef a Siams y garddwr, ac ychydig o chwiorydd, yn cynnal llawer o gyfarfodydd gweddio anwyl gyda'u gilydd. Nid