Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr hwn fu yn ddiwyd a gweithgar gyda y rhan hon o'r gwasanaeth am flynyddau. Fel hyn aeth pethau yn y blaen yn gysurus. Amlhaodd y gwrandawyr, agorwyd amryw weithiau glo newydd yn y gymmydogaeth, daeth amryw ddyeithriaid i'r lle, ac yn eu plith rai oedd yn ofni Duw ac yn cilio oddiwrth ddrygioni; ac ambell un yn cael ei fedyddio. Yn fuan aeth y capel bach yn rhy fychan, teimlai yr eglwys angen am "helaethu lle ei phabell, ac estyn cortynau ei phreswylfeydd." Ac felly yn y flwyddyn 1853 cawn hi yn ystyried y mater o gael capel newydd, ac wedi trefnu i gasglu ar ei gyfer. Cytunwyd ar y 17eg o Fehefin, 1854, â Mr. Richard Mathias i adeiladu y capel am y swm o £487. Erbyn Tachwedd y 4ydd, yn yr un flwyddyn, yr oedd y capel wedi ei gwbl orphen, bythefnos cyn i amser yr ammod (contract) ddyfod i ben. Pregethwyd am y waith gyntaf yn y capel newydd yr ail Sabboth o'r un mis gan Mr. Price, ac ar yr 22ain o'r mis hwnw agorwyd y capel, pryd y pregethodd y Parchn. John Jones a John Lloyd, Merthyr; Robert Owen, Berthlwyd; William Williams, Llysfaen; J. D. Williams, Cwmbach; D. Davies, Waentrodau; B. Evans, Heolyfelin, a T. Davies, Merthyr. Wedi cael capel newydd, a lle cyfleus i addoli, a chael bendith ar lafur y gweision, trwy fod yr eglwys yn lluosogi a'r gwrandawyr yn amlhau, barnwyd yn angenrheidiol i ymgorffoli yr eglwys ar ei phen ei hun a chael gweinidog i fyw yn y gymmydogaeth. Hyspyswyd hyny i Price, y gweinidog. Rhoddwyd galwad wresog ac unfrydol i Mr. William Williams, Llysfaen, a derbyniodd yntau yr alwad. Dechreuodd ar ei weinidogaeth y Sabboth olaf yn mis Ebrill, 1855. Cynnaliwyd Cwrdd Chwarterol Morganwg yno ar y dydd diweddaf o Ebrill a'r dydd cyntaf yn Mai, yr un flwyddyn. Defnyddiwyd un o'r cyfarfodydd hyn i gorffoli yr eglwys ar ei phen ei hun a sefydlu y gweinidog. Ar yr achlysur pregethodd y Parchn. J. Davies, Merthyr, ar Natur Eglwys Iesu Grist; B. Evans, Heolyfelin, ar ddyledswydd y diaconiaid; J. Evans, Abercanaid, ar ddyledswydd y gweinidog; ac Ě. Evans, Dowlais, ar ddyledswydd yr eglwys. Y pump diacon a neillduwyd yn y cwrdd hwn trwy weddi ac arddodiad dwylaw y gweinidogion oeddynt, James Williams, David Jenkins, Thomas Richard, David Davies, a Richard John; ac yr oedd brawd arall, sef Evan Jenkins, neu fel y gelwid ef yn gyffredin, Ifan Shenkin, wedi symmud ychydig cyn hyn o'r Berthlwyd,