Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn groes i feddwl aelodau goreu Aberdar, ac i farn a theimlad Price, caniatawyd eu cais, ac er hyrwyddo y ffordd iddynt gael derbyniad dioed i'r gymmanfa, corffolwyd hwy gan Price, yn cael ei gynnorthwyo gan y Parch. B. Evans, Hirwaun, y pryd hwnw, ar y nos Lun cyn y gymmanfa, a gollyngwyd 121 o aelodau i'w ffurfio. Derbyniwyd hi i'r gymmanfa yn y flwyddyn 1849.

Yn ddioedi wedi hyn, rhoddasant alwad i ddyn drwg o'r enw David Jones (Dewi Elfed) i ddyfod i'w bugeilio, a chymmerwyd arolygiaeth y capel yn hollol o law Eglwys Aberdar; ac er tori y cyssylltiad yn ddigon llwyr, tynwyd enwau Price a John Davies o'r ddalysgrif, a gosodwyd enwau David Jones a David Richards yn eu lle. Gwnawd hyn yn ddiau yn fwriadol gan Dewi Elfed er cyrhaedd ei amcan ystrywgar o fyned â'r capel oddiwrth y Bedyddwyr. Codwyd muriau y capel, a gosodwyd tô arno, a phwlpud ac un sedd ynddo, ac awd iddo yn y cyflwr anorphenedig hwnw; ac felly y bu hyd amser dinystriad yr eglwys. Nid hir y bu y dyn hwn cyn dangos ei ddrygioni. Yn y flwyddyn 1850, diarddelwyd yr eglwys a'i gweinidog o'r Gymmanfa yn herwydd cyfeiliornadau dinystriol y gweinidog. Ond er holl ddrygioni a chyfeiliornadau Dewi, cafodd rai Bedyddwyr i'w bleidio, a chan iddo gael ei gefnogi gan ychydig deuluoedd camsyniol, bu fel cancr yn difa pob rhinwedd a phob yspryd crefyddol yn yr ardal, ac yn planu chwyn gwenwynllyd, y rhai a adawsant eu heffeithiau yn Aberaman am flynyddau amryw. Wedi i'r dyn hwn wneyd a allasai i ddifodi achos y Bedyddwyr yn y lle, aeth ef ei hun—ac amcanodd fyned â'r capel a'r eglwys—drosodd at yr haid crefyddwyr a elwid yn y gymmydogaeth yn "Seintiau y Dyddiau Diweddaf." Llwyddodd, trwy ei dwyll yn newid y lease, i fyned â'r capel, a dylynwyd ef gan rai o'r aelodau; ac felly, llwyr ddinystriwyd yr eglwys yn Aberaman, ac ni achubwyd o'r drygfyd hwn ond ychydig a ddychwelasant i Aberdar. Collwyd y capel i'r eglwys am yn agos i flwyddyn; ond cymmerwyd y mater mewn llaw gan Price a'i eglwys er adennill y capel i'r Bedyddwyr o grafangau yr yspeilwyr oeddynt wedi ei drawsfediannu. Cafwyd, fel y gellid dysgwyl, bob gwrthwynebiad gan Dewi a'i blaid; ond er syndod a gwarth tragwyddol, cafwyd pob gwrthwynebiad gan ychydig Fedyddwyr oeddynt â llaw yn y mater. Perodd yr achos hwn bryder a thrafferth mawr i Price, a degau o