Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/165

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fod yn gwneyd ei hun yn gyffredin gyda'i gyd-deithwyr er eu dyfyru, ac hefyd eu hadeiladu mewn pethau buddiol. Efe o ddigon mewn amser byr oedd y person mwyaf poblogaidd ar y bwrdd. Ffurfiodd adnabyddiaeth fuan a'r rhan fwyaf oedd ar y llestr, a daeth yn ffafrddyn gyda hwynt. Dywedai y cadben am dano un o'r dyddiau cyntaf, "That reverend gentleman is a wonderful man, he draws all to himself, and can do just as he likes with them;" ac wedi cael ei adnabod yn dda, cafodd sylw a pharch neillduol gan y cadben, John Mirehouse. A ganlyn yn unig ydynt ei nodion yn ei ddyddlyfr am ei fordaith i'r Americ:—

April 7 Sailed from Liverpool in the 'City of Antwerp'
8 Prayer meeting on board 'City of Antwerp'
9 ......do ....... do......
11 The Church Service read, with Welsh singing
" Short service on deck of the steamer
12 At sea, with a short prayer meeting nightly
13 to 17 The same as the 12th
18 Captive maid (Welsh) in the saloon of steamer
" English Service in the evening
19 A public prayer meeting in the steerage
20 ......do ....... do......
" This day, at 2 o'clock in the morning, got to New York, and landed all well at 9 o'clock a.m.
21 to 24 At W. B. Jones' in the City of Brooklyn

Bellach, Dr. Price yn America a welir, a dyna'r swn a glywir yn mhob cyfeiriad. Bu cyffro mawr mewn rhai parthau o Gymru ar ei ymadawiad. Mae cyffro mawr mewn parthau o'r Americ ar ei diriad. Yr oedd pobl Aberdar yn hiraethus ar ei ol. Mae miloedd yn ngwlad y Ianci yn falch cael ei fenthyg, megys, am ychydig fisoedd. Bu yn aros ychydig ddyddiau yn nghartref clyd W. B. Jones, Ysw., Brooklyn, a phregethodd deirgwaith y Sabboth cyntaf yn yr eglwysi mwyaf a phwysicaf yn New York, fel y gwelir etto. Yn mhen ychydig ddiwrnodau cawn ef yn Hyde Park, yn cael ei roesawi yno mewn cyfarfod cyhoeddus, adroddiad byr o'r hwn a osodwn yma:—

"CYFARFOD CROESAWOL Y PARCH. DDR. PRICE YN HYDE PARK.

Cynnaliwyd cyfarfod i'r dyben uchod yn nghapel y Bedyddwyr Hyde Park, nos Iau, Ebrill 29ain.