Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/177

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

edigion. Credwyf ei fod yn beth newydd iddo wrandaw ar araeth yn cael ei thraddodi yn y Lladinaeg. Araeth yn yr iaith hono ydyw y cyntaf a draddodir pan fyddo dosparth yn cael ei raddio. "Ymdrechodd yn fawr iawn i agor ffordd i rai o fechgyn Cymru gael eu haddysg yn Ngholegau America. Ni lwyddodd yn ei amcan yn hyn, er iddo greu cryn dipyn o dân yn Lewisburg yr adeg hono. Ni chafodd weled ond dau yn unig yn gadael Cymru am Goleg Lewisburg, sef Owen James, aelod y pryd hwnw yn eglwys Heolyfelin, a Iago W. James, aelod etto yn eglwys y Gadlys. Mae Owen James wedi cyrhaedd safle uchel yn America, a saif ei enw yn uchel ar roll of honour Coleg Lewisburg.

"Ni arosodd Iago W. James ond amser byr yn Ngholeg Lewisburg; derbyniodd alwad gan un o eglwysi Ohio, ac ymadawodd. "Nos Fercher, yr oedd y levee yn cael ei chynnal yn nhŷ Dr. Loomis, Llywodraethydd y Coleg. Yr oedd Dr. Price a Miss Emily yo wahoddedig iddo. Rhywfath o gyfarfod ymadawol i'r graddedigion ydoedd hwn. Boreu dydd Iau, yr oedd pawb yn gwynebu i'w cartrefloedd. Dr. Price yn gwynebu ar ei waith mawr a phwysig mewn gwahanol ardaloedd. Yr oedd y gwahoddiadau am dano yn aml a lluosog; ni fedrai gydsynio â'u hanner hwynt.

"Yn mis Tachwedd, 1869, gwelais fod Dr. Price yn St. Louis, Missouri. Yr adeg hono, ac yn y lle a nodwyd y cynnaliwyd 'The First National Baptist Sunday School Convention.' Yr oedd yn gyfarfod pwysig iawn; ac er cymmaint o Sunday School man oedd Dr. Price, cafodd well golwg ar yr hyn sydd alluadwy drwy yr Ysgol Sul yn y convention nag a gafodd erioed o'r blaen. Gwyr pobl Cymru yn dda pa fath weithiwr ydoedd Dr. Price wedi bod gyda'r Ysgol Sul, gwyddant hefyd pa beth a amcanodd gyda yr un pwnc pwysig ar ol ei ddyfodiad ya ol i'r wlad hon o America. Gwyddai Dr. Price fod dyfodol eglwys Iesu Grist i raddau mawr iawn yn gorphwys ar yr Ysgol Sul, a'r neb sydd am gael prawf o hyn, edryched i nifer a llwyddiant y Bedyddwyr ac enwadau ereill yn America. Cafodd Dr. Price ei alw i roddi anerchiad yn y cyfarfod hwn. Synwyd yr Americaniaid yn fawr iawn gan nifer yr eglwysi oeddynt wedi hanu o eglwys Calfaria, a'r nifer mawr iawn yr oedd efe wedi eu bedyddio."

Teimlwn nad oes eisieu i ni ddywedyd dim mewn ffordd o ganmoliaeth i'r llythyrau hyn, gan y dygant ynddynt eu hunain gymmeradwyaeth uchel i'w hawduron parchus. Yn ystod ei ymdaith yn yr America, ysgrifenodd y Dr. lawer iawn ar yr hyn a welodd, ac a glywodd, ac a deimlodd yn yr America. Anrhegodd hefyd ei ddarllenwyr yn Seren