Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/180

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Dec. 4th, 1869, sailed from New York for home. 4th to Dec. 13th is almost a religious blank.[1] Arrived in Liverpool early on Monday morning, the 13th."

Dydd Mercher, y 15fed, cyrhaeddodd Aberdar yn iach a dyogel, a chafodd dderbyniad tywysogaidd. Daeth miloedd i'r orsaf i'w gyfarfod a'i roesawu, ac i amlygu eu parch a'u teimladau da tuag ato. Yn ei fynegiad yn Seven Cymru am Ragfyr y 24ain, 1869, o'r amgylchiad hapus, dywed Dewi Dyfan fel hyn :" Tua hanner awr wedi dau o'r gloch, gwelid y bobl o bob cwr o'r dref yn tynu tua'r orsaf. Yn mhen ychydig, daeth Cor y Plant perthynol i Galfaria yno. Chwyddai y dorf yn barhaus, nes, o'r diwedd, yr oedd y dernyn tir helaeth wrth yr orsaf yn orlawn. 'Beth sydd yn bod?' gofynai ambell i bassenger mewn syndod. ' A oes rhyw dywysog yn cael ei ddysgwyl, dywedwch?' Am ychydig funydau i dri o'r gloch, daeth y train i mewn, ac mewn ychydig daeth gwyneb crwn, llon, ac iachus y Dr. i'r golwg yn mhlith y dyrfa, yn nghyd â Miss Emily, mor loyw ag y bu erioed. Edrychai y ddau yn rhagorol. Wedi cael pethau i drefn, darllenwyd dau anerchiad i'r Dr. wrth yr orsaf; y cyntaf gan T. Davies, Ysw., West of England Bank, yr hwn oedd oddiwrth drigolion tref Aberdar. Yr oedd yn anerchiad cariadus, destlus, a chaboledig. Darllenwyd y llall gan D. Davies, Ysw., Bryngolwg, dros yr Urdd Odyddol yn Aberdar. Wedi cael araeth wreichionllyd gan y Dr., ffurfiwyd yn orymdaith. Masnachwyr y dref yn flaenaf, y gweinidogion yn canlyn, a'r ysgol ar ol hyny, ac yna Dr. Price a'i gyfeillion mewn cerbyd yn dylyn. Chwareuai llumanau o amryw ffenestri, yn arwydd o'r croesaw roddai y bobl iddo ar ei ddychweliad. Gerllaw i Rose Cottage crogai bwa gwyrdd gyda llumanau, yn cynnwys yr arwyddair— Welcome Home to Dr. and Miss Emily Price.' Mewn gair, yr oedd y derbyniad yn deilwng o dywysog bob rhan o hono. Rhwng y dorf fawr, y saethu bywiog, y baneri chwifiedig, a'r anerchiadau canmoladwy, buom bron credu fod rhyw second Garibaldi neu Wellington wedi ymweled ag Aberdar. Bernid fod yn y man lleiaf chwech neu saith mil yn ei gyfarfod wrth yr orsaf. Teimlai pawb yn falch wrth weled

  1. Yr oedd Cadben Kennedy, dan ofal yr hwn y dychwelodd, yn dra gwahanol ei gymmeriad i'r Cadben Morehouse: yr oedd yr olaf yn ddyn crefyddol iawn, tra yr oedd y blaenaf yn mhell oddiwrth hyny.