Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/203

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Fod y cyfarfod yn ddadblygiad o deimlad Odyddion Cymreig yn unig at Dr. Price fel Cymro, am y modd boneddigaidd a galluog y cyflawnodd ei swydd fel Llywydd yr Undeb yn 1865, 1866, a thrwy hyn wedi dyrchafu y Cymry yn ngolwg yr Odyddion drwy y byd." Cydsyniodd Dr. Price i dderbyn dadblygiad o barch ei frodyr yn unig ar y tir fod y mater yn hollol gyfyngedig i Odyddion Cymru—cauwyd allan Sir Fynwy; ac nad oeddid i ofyn gan, na derbyn oddiwrth, neb fwy na cheiniog. Y canlyniad fu i ychydig dros 15,000 anfon eu ceiniogau i Gaerdydd yn ddiymaros ac yn ddigymhelliad: ni wnawd rhagor na dweyd fod y mater ar droed. Yr anrheg ardderchog a thlws oedd yn gynnwysedig o safaddurnen (epergne), neu centrepiece and candelabra, neu ganol—ddarn a chanwyllur o arian, mewn rhan yn llyfn a dysglaer ac mewn rhan yn rhewgaenedig (frosted silver). Mae y sylfaen (base) yn ffurfio tair wyneb, yn cael eu gwahanu gan geninen. Ar y wyneb gyntaf y mae darlun ardderchog o Dr. Price wedi ei suddo yn yr arian; ac uwchben y darlun mae yn gerfiedig y geiriau canlynol:—" The Welsh Oddfellows' testimonials to the Rev. Thomas Price, M.A., Ph.D., the first Welshman elected to the office of Grand Master of the I.O. of O.F., M.U. Presented by the Welsh Districts as a tribute of their high esteem and appreciation of the efficient and admirable manner in which he discharged the arduous duties of the chief office of the Institution during 1865—6; and, also, for the active and zealous interest he has for many years taken in the welfare and prosperity of the Unity." Ar y wyneb arall y mae arwyddluniau yr Undeb Odyddol, gydag eiddo y Gweddwon a'r Amddifaid, yn nghyd ag arfbais genedlaethol y Deyrnas Gyfunol. Ar y drydedd wyneb y mae arfbais yr Hen Gymry yn yr amser y cwympodd y Tywysog Llewelyn. Uwchben y sylfaen mae tri darlun hardd mewn arian rhewgaenedig o ffydd, gobaith, a chariad yn cofleidio plentyn amddifad. Yna, tuag i fyny ac ar led, y mae y canwyllur yn ymledu ar lun y winwydden yn ymdaenu ei changau, o'r rhai y coda lle i osod chwech o ganwyllau, ac odditano y mae basgedi bychain yn dal y ffrwythau. Uwchlaw hyn etto y mae dysgl yn llawn o flodau a ffrwythau; ac yn uchaf oll y mae cafn o aur pur, yn cymmeryd golwg hynod foddhaol ar y cwbl oll. Mae y cwbl yn mesur tair troedfedd o hyd wrth ddwy o led yn y man lletaf; ac yn ol barn pawb a'i gwel-