Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/228

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

maint o ddal arno, ac mewn cyfyngder yr oedd yn ofnus ac yn llwfr. Dacw'r ddau frawd yn myn'd, ac yn codi dros y breast draw, ac meddai Petr, 'Ioan, byddwn ein dau yn y jail cyn dod yn ol heddyw. Mae y Meistr yn arfer bod yn llygad ei le, ac yn iawn bob amser, ond y mae yn colli tipyn heddyw.' ‘Dere 'mlaen,' meddai Ioan, 'bydd ef yn sicr o fod yn ei le heddyw etto.' Dyw e' ddim wedi dweyd am ofyn benthyg y creadur bach, nac wedi dweyd y caffai ei berchenog ef yn ol-dim ond 'Gollyngwch a dygwch.' Mae Duw yn gwybod, Ioan bach, byddwn yn llaw y policeman ar unwaith.' 'Pob peth yn iawn, Petr,' dywedai Ioan, 'y mae wedi ein dysgu i ddweyd 'Rhaid i'r Arglwydd wrtho,' ac y mae 'Rhaid' y Meistr yn clirio y ffordd at y cwbl ac yn ateb am yr oll." Cai Dr. Price hwyl fawr yn gyffredin pan yn traddodi pregeth yr asyn bach.

Pregeth fawr gan y Dr. oedd pregeth yr esgyrn sychion. Byddai yn ddoniol yn darlunio y dyffryn, y proffwyd, a'r esgyrn. Braidd na osodai yr esgyrn i siarad pan y darluniai y naill asgwrn yn chwilio am ac yn dyfod "at ei asgwrn."

Un tro, pan yn pregethu ar daith plant Israel yn yr an- ialwch, yr oedd gydag ef grydd a theiliwr (brodyr da) yn ddiaconiaid, a dywedai ar ei bregeth, "Ie, yr oedd eu dillad yn para o hyd o ddechreu y daith i'w diwedd. Lle gwael fyddai yno i Henry Dafis: 'chai e' ddim mesur troed na gwneyd pâr o'sgidiau o'r naill flwyddyn i'r llall; ac am Thomas Morgan, 'chai yntau byth fesur am bâr o ddillad, ac ni fuasai yn cael gwaith i wneyd mourning ar ddydd Sul." Wedi bywiogi ei gynnulleidfa, a'i chodi i grechwen, dychwelai at y difrifol a'r dwys, ac y mae yn bossibl y gwelid y bobl yn colli dagrau mewn ychydig funydau. Byddid yn sicr o gofio hanesion Ysgrythyrol wedi eu clywed ganddo ef.

Yr oedd ganddo allu mawr i gymhwyso ei bregethau at leoedd, ac amgylchiadau yn y lleoedd hyny. Un o'i ddewis-bregethau oedd pregeth y "Llances Fach." Yn mha le bynag y pregethai hono, gwnai ddefnydd da o honi. Gellid meddwl iddo ei darparu ar gyfer y lle hwnw yn unig. Ar ei daith yn America, cai y llances ddangos ei gwyneb siriol yn fynych. Gwnai iddi edrych yn dlos, gwisgai hi yn ei dillad goreu; ac wedi ei chael yn ei haddurniadau goreu, dywedai, "Dyma fel mae merched bach prydferth Cymru sydd wedi eu codi yn yr Ysgol Sabbothol ac ar