Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/235

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn niwedd ei goflyfr cyntaf, cawn dudalenau lle y cofnoda ei bregethau yn y cwrdd misol, ac hefyd y rhai a draddododd yn y cangenau, y rhai sydd fel y canlyn:—

"Cwrdd Misol, 20 o bregethau ar wahanol destynau; Ynyslwyd, 21; Gadlys, 45; Bethel, 145; yr oll ar wahanol bynciau yn yr un eglwysi."

Yn yr ail gofnod—lyfr, cawn:—

"NOTE.—The sermons and public engagements in this Book are in continuation of a book already filled. I had preached previous to my commencing to enter in the other register from Jan. 1, 1849, to Dec. 31, 1850, 945 times. Recorded in the other Register 5,904 times, making a total of 6,859. Hence I had the privilege of attending some public engagements up to Dec. 31, 1866, 6,859. I bless God for health and ability to do this. To his name be all the glory."

Yn 1867, cyflawnodd 506 o ymrwymiadau cyhoeddus. Yn niwedd 1868, cawn y nodiad a ganlyn:—

Mae y flwyddyn ddiweddaf wedi bod yn un hynod am ei marweidddra crefyddol trwy yr holl wledydd. Ychydig iawn, iawn, o grefydd sydd wedi ei brofi yn unrhyw fan. Yr ydym ni wedi bedyddio llai nag arfer—dim ond 16 trwy y flwydddyn. Mae genym i ddiolch i'r Arglwydd am heddwch, cariad, a thangnefedd yn yr eglwys. Mae y gynnulleidfa yn dda iawn, ond ychydig yw y cynnydd. I'r Arglwydd y byddo y clod am bob daioni. Yr ydwyf wedi cael nerth a iechyd i gymmeryd rhan mewn 521 o gyfarfodydd gartref ac oddicartref yn ystod y flwyddyn. Yr Arglwydd a fyddo gyda ni yn y dyfodol. Amen.

Yn y flwyddyn nesaf, 1869, yr ymwelodd â'r Iwerddon a'r America, ac y mae yr holl fanau yr ymwelodd â hwynt wedi eu croniclo yn ofalus dydd yn ei ddydd; felly, gellir unrhyw bryd ddweyd, oddiwrth ei gofnod—lyfr, p'le ydoedd bob dydd, a'r gwaith cyhoeddus a gyflawnodd. Yn niwedd y flwyddyn 1870, mae ei ymrwymiadau cyhoeddus wedi cyrhaedd o'r dechreuad i 8,843, a dywed:—

Heddyw, dydd Sadwrn, Rhagfyr 31, 1870, yr wyf yn y modd mwyaf dwys a difrifol yn cydnabod llaw ddaionus yr Arglwydd tuag ataf am y flwyddyn hon. Diolch am nerth a iechyd i weithio yn y winllan. Mae y cyflawniadau cyhoeddus am y flwyddyn yn 508. O am fwy o yspryd gras a gweddi, yspryd caru ac yspryd gweithio, fel y byddo i'r Enw