Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/237

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

adawsom er myned i Scotland. Cyrhaeddasom Edinburgh dydd Gwener, yr 11eg. Aethom oddiyno i Melrose, yn Scotland, dydd Sadwrn, Awst 12. Bu Emily a minau yn Melrose hyd ddydd Mercher, Medi 27, 1876. Aethom o Melrose i Newcastle—on—Tyne, York, ac i Birmingham. Buom yn Birmingham wythnos yn mwynhau Cyfarfodydd Hydrefol Undeb y Bedyddwyr. Ar Hydref 6, 1876, aethom o Birmingham i Rhyl. Arosasom yno hyd Tachwedd y 6, 1876. Y dydd hwn y daethom i Aberdar gyda chalonau diolchgar i Dduw am y fraint. Bum 36 o Suliau heb bregethu dim. Diolch i Dduw am adferiad."

Bu y Dr. mewn ychydig ddyryswch gyda'i amgylchiadau bron yn y cyfnod hwn, a llawer oedd y barnau a ddadgenid gan rai am ei absenoldeb o Aberdar. Gwyr y rhan luosocaf o'i hen gydnabod ei fod wedi ei arwain i'r dyryswch hwn gan ereill yn gyssylltiedig a'r Factory yn Aberdar. Cafodd y Dr. ddyoddef yn erwin o herwydd hyn hyd ddiwedd ei oes, ac er symmud drwg dybiaethau a rhoddi ychydig oleuni ar y cyfnod hwnw, yr ydym wedi dyfynu y nodiad eglurhaol o ddyddlyfr y Dr. yn llawn. Teimlwn ei bod yn iawn ynom gyfeirio at y pethau hyn, gan iddynt fod yn ddygwyddiadau pwysig yn ei fywyd. Diau i'r trafferthion a gafodd a'r gofid yr aeth drwyddo effeithio llawer iawn ar ei iechyd, a gallwn, oddiar wybodaeth ac adnabyddiaeth bersonol, ddweyd na fu y Dr. byth yr un fath ar ol hyny. Collodd ei yspryd a'i wroldeb i raddau helaeth iawn.

Hydref 11eg, 1880, cymmerodd amgylchiad hapus le yn Nghalfaria. Gyda y Dr. am y dyddiad hwnw cawn fel hyn:—

Bedyddio dau fyfyriwr ieuainc o Athrofa Trefecca, y rhai oeddynt wedi cyfnewid eu golygiadau am fedydd, ac yn dewis cael en bedyddio gan Dr. Price yn Nghalfaria. Enwau y brodyr ieuainc ydynt David Evans, gynt o'r Bettws, Sir Gaerfyrddin, a Thomas Valentine Evans, gynt o Landyfaen.

Y brodyr anwyl a galluog D. Evans, Llangefni, Môn, a Valentine Evans, Clydach yn bresenol, oeddynt y brodyr hyn. Y maent wedi profi yn gaffaeliad i'r Bedyddwyr, ac y maent wedi ennill safle a chymmeriadau uchel yn eu plith. Ar ddiwedd y llyfr hwn etto, sef yr ail, cawn ganddo lechres o'i bregethau i'r plant, y rhai ydynt 23 mewn nifer. Yn mhlith pynciau ereill, cawn—" Dafydd pan y fachgen, "Y Bachgen Iesu," "Timotheus," "Samuel," "Bywyd