cydweled yn hollol yn y peth, ac felly syrthiodd y cynllun i'r llawr. Mr. Thomas, yn ddiamheuol, oedd yn barnu yn iawn ac yn gweled y mater oreu. Llawer gwell oedd iddynt hwy ill dau gael bob un ei faes ei hun i lafurio ynddo, ac felly y bu. Yr oedd y brodyr mor wahanol i'w gilydd, fel nad oedd yn debyg y gallasent gydlafurio yn ddedwydd yn hir yn yr un eglwysi; felly, yn ol trefn ddoeth Rhagluniaeth Ddwyf. ol, ymwanhasant i gylchoedd gwahanol. Ymsefydlodd Evan Thomas yn weinidog ar Nebo yn unig, ac aeth y Dr. drosodd ac ymsefydlodd yn Aberdar. Yr oedd Nebo, Pencae, yn ateb Mr. Thomas yn dda, ac yntau yn ateb Nebo, a gwnaeth waith yno ag y cofir am dano ddyddiau lawer. Yr oedd Aberdar, hefyd, yn ateb Dr. Price, ac yntau yn ateb Aberdar yn rhagorol, ac yma y bu hyd derfyn ei daith. Wedi i'r Dr. fyned i Aberdar aeth blynyddoedd heibio heb i mi wybod ond ychydig am dano; ond yn Mawrth, 1858, pan aethum o Bantycelyn i'r Cwmbach, daethum yn gymmydog agos iawn iddo ; ac yn Chwefror, 1862, pan ddaethum i Heolyfelin, yr oeddwn yn agosach drachefn. Buom yn gymmydogion dedwydd iawn am 29 o flynyddau, a chefais ddigon o gyfleusderau a manteision i'w adnabod yn dda. Yr oedd yn hynod ddymunol, dyfyr, ffraeth, a doniol; byddai yn fywyd a llawenydd yn mhob cylch; ac nid oedd un amser yn honi rhyw fawredd ac uwchafiaeth ar ei frodyr. Bydd rhai felly weithiau, gwaethaf y modd, edrychant i lawr gyda dirmyg ar rai annhraethol amgenach na hwy eu hunain; nis gellir myned yn agos atynt, a dysgwyliant i'w brodyr deimlo rhyw gryndod a gwyleidd-dra wrth agoshau atynt. Nid oedd y Dr. yn perthyn o'r nawfed âch i'r tylwyth hyn-teimlai pawb yn gartrefol yn ei gyfeillach, ac yr oedd yntau yn gartrefol gyda phawb. Yr oedd yn wastad fel brawd yn mysg ei frodyr, ac ymddygai yn aml fel pe bua sai yn llai nâ'r lleiaf o honynt. Yr oedd ei siarad siriol, ei ffraethebion digrif, a'i nodiadau doniol, yn gwneyd ei gymdeithas yn ddymunol, dedwydd a llawen. Pan ddaethum i Ddyffryn Aberdar yr oedd y Dr. yn ei fan uchelaf mewn defnyddioldeb a phoblogrwydd; ond nid oedd hyny yn peri iddo annghofio ei hunan na diystyru ei frodyr. Y mae ambell frawd na all ddal ond ychydig o anrhydedd, clod, a phoblogrwydd, heb iddo ymchwyddo a myned yn fawr, gwyntog, a hunanol; ond yr oedd y Dr. yn dra gwahanol. Byddai ef bob amser yn ostyngedig, diymongar, a hunanymwadol. Yr oedd y Dr. yn llawn bywyd a gweithgarwch. Barna llawer iddo weithio gormod, ac y buasai yn dda iddo weithio llai, er iddo allu byw yn hwy. Pa fodd bynag am hyny, efe a weithiodd lawer 'mewn amser ac allan o amser.' Gallai wneyd llawer o waith, a hyny mewn gwahanol gylchoedd. Cafodd gyfansoddiad cadarn, bywiog, ac iach; ond gormod gwaith a'i niweidiodd yn fawr. Gwelid hyny yn amlwg yn ei flynyddau olaf. Gweithiodd ei
Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/246
Gwedd