Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/253

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ol, bu ef a minau ar daith am fis trwy Forganwg a rhan o Fynwy yn cynnal cyfarfodydd ar addysg, ac yn casglu at sefydlu Coleg Normalaidd yn Nghymru. Ysgrifenais hanes y daith i'r Diwygiwr ar y pryd, a gallwn yn hawdd yn awr ysgrifenu fy adgofion o honi. Yr oedd Dr. Price ar y pryd yn ddyn ieuanc iach a chryf, o dymher fywiog a llawen, ac yn un o'r cymdeithion mwyaf hapus. cywir, a diwenwyn y daethum erioed i gyffyrddiad ag ef. Llettyem yn nghyd mewn teuluoedd o wahanol enwadau, ac ni bu digter na dadl rhyngom yr holl amser. Yr oedd yn lled rydd a mentrus yn yr hyn a ddywedai; ond cefais ef yn nodedig o gywir a dihoced. Ar ol hyny y cyssylltodd ei hun ag achosion gwleidyddol a chyhoeddus, ac y daeth i ddylanwad yn ei enwad; ond yr oedd yn eglur y pryd hwnw fod ynddo gymhwysder at bethau o'r fath, er fod yn bossibl nad oedd y cyssylltiadau hyny ddim y mwyaf ffafriol iddo fel gweinidog yr Efengyl. Ychydig iawn, os oes neb, yn wir, a all gymmeryd rhan amlwg mewn cwestiynau cyhoeddus heb i hyny effeithio er gwanychdod iddynt fel gweinidogion a phregethwyr; ac etto, llwyddodd Dr. Price, tra y daliodd ei nerth a'i iechyd, i gadw yn nghyd gynnulleidfa fawr. Nid yn aml y ceid gweinidog yn fwy yn serch pobl ei ofal, ac nid ä yn annghof gan y genedlaeth bresenol y gwasanaeth cyhoeddus a wnaeth i Aberdar ar y gwahanol fyrddau.


GAN Y PARCH. W. MORRIS, TREORCI

"Nid ydym yn gwneyd un ymddiheurad am ddwyn i fewn i'n cyhoeddiad cenadol fywyd a llafur y diweddar Barch. Thomas Price, M.A., Ph.D., Aberdar. Haedda le yma fel un o'n cenadon mwyaf gweithgar yn nhre', ac fel un o gyfeillion ffyddlonaf y Genadaeth Dramor. Mewn modd neillduol, cenadwr Cristionogol ydoedd. Cymhellid ef gan yspryd cenadol brwdfrydig, a llwyddai i daflu ysprydiaeth genadol i'w eglwys ac i bawb ddelent i gyffyrddiad ag ef. Am ei fod yn genadwr mor selog a gweithgar yn nhre' yr oedd mor selog a gweithgar dros y Genadaeth Dramor: ac am fod ei galon ef yn llosgi o ymawydd am weled yr Efengyl yn lledu a llwyddo mewn gwledydd tramor yr oedd mor ymdrechgar i helaethu terfynau ei achos yn ei gylch cartrefol. Safai Dr. Price ar y gwrthbwynt pellaf oddiwrth yr yspryd a'r ymarferiad ceidwadol mewn cyssylltiad â'r achos crefyddol. Mewn un ystyr, yr oedd yn Geidwadwr di-ildio: mynai gadw holl egwyddorion a gwirioneddau y Grefydd Gristionogol. Nid oedd efe yn mhlith y rhai a ymffurfient mewn rhyddfrydigrwydd beiddgar fel ag i chwareu â sylfeini yr Efengyl. Nid dyn ar y ddisgynradd beryglus mewn pethau