Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/255

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ac nid oedd ei areithiau tanbaid ond cynnrychioliad amlwg o'i yspryd a'i waith yn nhre'. Dengys adroddiadau deng mlynedd ar hugain cyntaf hanes Dr. Price a'r eglwys yn Nghalfaria, Aberdar, na wnaeth un eglwys yn well, os cystal, yn y Dywysogaeth at y Genadaeth Dramor. Saif yn arwireb mai yr eglwysi sydd yn gwneyd oreu at y genadaeth ydynt yr eglwysi mwyaf byw a gweithgar eu hunain. Eglwys fyw fu Calfaria. Aberdar, tra yno y bu Dr. Price. Teimlai cylch eang y dyffryn ei nerth Taenwyd ei hyspryd hi yn mhell ac yn agos. fel y mae un o'r groups gogoneddusaf o eglwysi yn y dyffryn hwn. O honi hi, dan arweiniad y gweinidog enwog, y tarddodd eglwysi ar bob llaw yn Aberaman, Capcoch, Carmel, Abernant, Ynyslwyd, a'r Gadlys. Rhydd y rhifnodau canlynol syniad am lwyddiant y Dr : Yn ystod y cyfnod o 1845 hyd Nadolig, 1885, derbyniodd trwy fedydd, llythyron, ac adferiad, 3,847, a chafodd y fraint o fedyddio yn yr un tymhor, 1,596.

Ganwyd ef yn Llanamlwch. Brycheiniog, Ebrill 19, 1820, a bu farw yn ei Rose Cottage, yn Aberdar, dydd Mercher, Chwefror 29, 1888. Rhwng y rhifnodau hyn y gorwedda rhagymadrodd bywyd Dr. Price. Mae yn rhagymadrodd ysplenydd mewn llawer ystyr i'w dragwyddoldeb mawr. Ei destyn cyntaf erioed oedd 'Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd.' Hwn oedd ei sylfaen pan yn marw. Ni fu yn ddibechod; ond credodd mewn Ceidwad allodd dynu ymaith ei holl bechodau. Ni fu heb bechod, ond breichiodd Waredwr a allai wared ei bobl oddiwrth eu pechodau. Wrth roddi yr ysgrif—bin o'n llaw y waith hon, ein gobaith ydyw y cyfyd yr Arglwydd weithwyr tebyg iddo etto yn Nghymru. Angen y dydd yw gweithwyr; am hyny, atolyged yr eglwysi am i Arglwydd y cynauaf anfon gweithwyr i'w gynauaf. Pan y mae amddiffynwyr glewion hawliau y Genadaeth yn syrthio, coded yr Arglwydd ereill i lanw eu lle, a phan y mae cyfranwyr haelionus yn myned, a gweithwyr ffyddiog yn dystewi, na chaed y Genadaeth Dramor na Chartrefol fod heb eu gwroniaid."—Or Herald Cenadol am Ebrill 1af, 1888.


GAN FYNEGIAD COLEG PONTYPWL.

During the year some of the old Students have fallen on sleep One of the foremost men in the Principality for the last 40 years, one who possessed unbounded energy, burning zeal, undaunted courage, and who at the same time was characterised by a most kind and generous disposition, tender nature, and affectionate heart—such a man was Dr. Price, of Aberdare, whose recent departure we still