Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/279

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

deithas hon. Cymmerer y flwyddyn 1812 er enghraifft, pryd yr oedd y Gymdeithas yn ugain mlwydd oed. Dinystriwyd yn hollol y swyddfa argraffu berthynol iddi yn India, pryd y collwyd adeilad yn mesur 100 wrth 42 troedfedd, amryw dunelli o bapyr, 5,450 pwys o dype Seisnig, tair tunell o argraft-nodau wedi eu gwneuthur yn bwrpasol i un-ar-bymtheg o lafar-ieithoedd Indiaidd, yr oll o'r cases a'r stock-in-trade, a chrynhofa helaeth o lyfrau, yn mhlith y rhai yr oedd Geiriadur y Sanscrit, yn bum' cyfrol, ac yn barod i'r wasg-oll yn chwyddo i'r golled arianol o £7,000! Yr oedd hon yn golled aruthrol. Etto, ni a welwn ddaioni Duw hyd y nod yn yr adeg gyfyng hon, canys y boreu canlynol, wrth daflu golwg dros adfeilion yr adeiladaeth, deuwyd o hyd i dair tunell a hanner o fetal (yr hyn oedd yn gynnorthwy mawr iddynt er ail-ffurfio yr argraff-nodau), a chafwyd y matrices a'r punches dur perthynol i'r ieithoedd Indiaidd heb eu hanafu mewn un modd, yr hyn oedd o fantais fawr mewn arian ac amser, a thrwy yr hyn yr oeddent yn alluog i ddechreu argraffu eilwaith mewn deng niwrnod, ac mewn llawn waith yn mhen chwech mis! Yna yr ydym yn canfod llaw Duw yn dal i fyny ein dynion da yn ngwyneb ergyd mor drwm, fel yr oeddynt yn alluog i roddi eu hymddiried ynddo Ef am y dyfodol. Wedi i'r newydd galarus am y golled fawr gyrhaedd y wlad hon, gwnawd appeliad grymus at bawb Cristionogion, ac atebwyd ef yn gwbl foddhaol, gan fod cyfraniadau wedi dyfod i law cyn pen tri-ugain niwrnod yn cyrhaedd y swm o £7,000. Heblaw hyn, gwnaeth y golosgiad yn Serampore i'r Genadaeth fod yn fwy hyspys, ac o'r dydd hwnw allan bu derbyniadau parhaol y Gymdeithas yn llawer helaethach (cymmeradwyaeth).

Yr oedd y flwyddyn 1829 hefyd yn gyfnod nodedig yn hanes y Gymdeithas hon, pryd yr oedd mewn dyled o £4,000; ond cyfarfu y cyfeillion mewn ffydd a dybyniaeth ar Dduw, a gwnaethant appeliad etto at haelfrydedd Cristionogol, ac mewn un cyfarfod yn y neuadd hon, llwyddwyd i gael £4,798 6s. 4c., y ddyled yn cael ei dileu, a gweddill mewn llaw o £788 6s. 4c. Y mae y flwyddyn 1832 yn gofus ar feddyliau llawer o'r brodyr a'r henafwyr a welaf o'm deutu. Yn y flwyddyn hono dinystriodd gelynion y Genadaeth ein capeli a'n hysgolion yn Jamaica, lle y collasom eiddo yn werth amryw filoedd; ond mewn atebiad i appeliad William Knibb (clywch, clywch,) a theimlad cyfiawn