Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a gynnelid yn yr annedd-dai yn y dref a'r ardaloedd cylchynol. Arferai efe a'r bechgyn ieuainc a ddechreuasant grefydda yr un adeg ag ef siarad bob yn ail yn y cyfarfodydd gweddi crybwylledig. Tebyg eu bod weithiau yn myned allan mor bell i'r wlad à Llanamlwch, plwyf genedigol y Dr., oblegyd dywedai yr hen foneddiges y crybwyllasom am dani yn flaenorol, Mrs. Davies, ei bod yn cofio amser dymunol ar grefydd bron ar yr adeg y bedyddiwyd Thomas Price. Arferai efe a rhai bechgyn ieuainc ddyfod allan i gynnal cyfarfodydd gweddi yn y pentref, a phregethent neu anerchent yn y cyfarfodydd hyny yn achlysurol. Cynnalient y cyfarfodydd mewn hen ystordy oedd uwchben siop saer oedd yn y pentref, yr hon a feddiennid gan un Nellie Jones, hen ferch weddw, a merch i un William Jones, pregethwr cynnorthwyol gyda'r Annybynwyr. Ond yr oedd ei ferch, Nellie, yn Fedyddwraig selog, ac yn gwneyd ei goreu i ledaenu yr egwyddorion Bedyddiedig yn y gymmydogaeth. Yr oedd y cyfarfodydd hyn yn rhai llewyrchus a llwyddiannus iawn. Dywedai Mrs. Davies nad oedd yr adeg hono dy yn y wlad braidd heb aelod crefyddol ynddo, ac yr oedd pawb bron yn ymdrechu gwneyd rhywbeth gyda chrefydd. Teimlid parch mawr at Thomas Price, ac ymgynnullai nifer lluosog i'r cyfarfodydd hyn bob tro y byddai efe yn dyfod allan i Lanamlwch. Heblaw yr ymarferiad, yr oedd Price a'i gyfoedion yn ei gael yn y cyfarfodydd a nodwn, yr oeddynt yn fynych yn ymneillduo i'r maes a'r coedwigoedd cylchynol i gynnal cyfarfodydd gweddi. Clywsom y Ďr. yn dweyd droion ei fod ef wedi magu llawer o nerth, ac wedi ymgryfhau fel gweddiwr drwy ymarferyd llawer wrtho ei hun mewn coedwig oedd yr adeg hono heb fod yn neppell oddiwrth Gapel Porthydwr. Flynyddau yn ol yr oedd llawer o hyn yn cael ei wneyd hyd y nod gan y bobl ieuainc a ymunent à chrefydd yr Arglwydd Iesu; ond ofnwn yn bresenol nad yw yr arferiad yn cael ei fabwysiadu o gwbl gan y to sydd yn codi, a hyny am nad ydynt yn meddu yr un yspryd, ac nad yw yr un dylanwadau nerthol yn gweithio ynddynt. Buasai yn dda i'r Eglwys yn fynych yn bresenol ped arafai ei haelodau hi ychydig, gan ystyried a meddwl am eu dyledswyddau a'u rhwymedigaethau crefyddol, ac ymneillduo yn fynych i'r maes agored, y goedwig dewfrig, neu y mynydd tawel, i ddal cymdeithas a'r Yspryd Tragwyddol, fel y gwnai Crist gynt, a miloedd o'i ffyddlawn ganlynwyr yn yr oesoedd a aethant heibio.