i'r pwyllgor, ar gymmeradwyaeth yr athrawon o'u hymddygiadau, galluoedd, a'u cyrhaeddiadau, ganiatau y ffafr o flwyddyn arall iddynt yn y ty, gan y credent yn drwyadl y troent allan yn weinidogion neillduol gymhwys o'r Testament Newydd. Ac ni siomwyd hwynt yn un o honynt.
Ysgrifena ei hen gydfyfyriwr talentog, yr enwog Barch. John W. Todd, D.D., Sydenham, yn ddyddorol ychydig o hanes bywyd colegawl Price. Dyma fel y dywed yn y Saesneg:— "Ffurfiwyd fy adnabyddiaeth foreuaf â Dr. Price yn y flwyddyn 1842 neu 1843, pan y dechreuodd ar ei fyfyrdodau yn Ngholeg Pontypwl. Yn flaenorol i'w ddyfodiad i'r athrofa yr oedd wedi enwogi ei hun fel gweithiwr egniol yn Eglwys Eldon Street, Llundain, ac fel dyn ieuanc o yspryd cyhoeddus, yr oedd wedi ennill sylw drwy wrthwynebu amddiffynwyr Cydfrodoriaeth (Socialism), heb ofni ymosod ar eu harweinydd, yr enwog Owen, yr hwn a yrodd i ddyryswch drwy roddi iddo gyfres o ofyniadau pwysig. Yr oedd yr argraff a wnaeth ar ei gydfyfyrwyr, ychydig o'r cyfryw sydd yn aros hyd heddyw, yn dra ffafriol; ac edrychem arno fel dyn o addewid ddiamheuol, yn llawn o egnion diflino, ac wedi ei fwriadu i safle uchel, nid yn unig fel gweinidog, ond hefyd fel arweinydd mewn bywyd cyhoeddus. Yn herwydd fod y coleg yn dra llawn yn ystod ein harosiad yno, rhoddodd ein hanwyl athraw, Dr. Thomas, yr hwn yn llythyrenol a addolem, un o'i ystafelloedd yn ei dy ei hun at ein gwasanaeth, ac am resymau gwybyddus iddo ei hun yn unig, dewisodd Dr. Price a minau ei defnyddio. Dygodd hyn ni yn naturiol i berthynas agosach nâ'r cyffredin, ac achosodd ffurfiad cyfeillgarwch rhyngom sydd wedi aros yn ddidor am dros ddeugain mlynedd. Yn naturiol, yn y rhan fwyaf o'n harferion a'n chwaeth yr oeddem yn dra gwahanol; ond yr oedd yn rhaid fod elfenau yn cynnyrchu rhyw debygrwydd rhyngom a'n tynai i gydymdeimlad cymdeithasol â'n gilydd, y rhai gobeithiaf ydynt wedi eu hadnewyddu yn y cylch dibechod hwnw sydd yn ddatguddiedig yn unig i'n ffydd."
Dywed Dr. Roberts, Pontypridd, fel hyn am Dr. Price yn yr athrofa:—
"Adeg bwysig a phryderus yn hanes gweinidog yw amser ei fynediad i'r athrofa. Mae yr amgylchiad hwn yn fy hanes mor fyw yn fy nghof a phe doe y cymmerodd le, er fod mwy na phum' mlynedd a deugain wedi myned heibio er hyny. Yn hwyr dydd gauafol yn gynnar