Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cael rhywun i gymdeithasu gydag ef, oblegyd hyd hyny nid oedd Mr. Lee a minau dan y ddeddf, eithr dan ras. Ryw nos Lun yn lled fuan daeth y dirgelwch i'r golwg; cynnaliwyd brawdlys ar y cyhuddedig; dyfarnwyd fod yr hyn oedd efe wedi ei ddyoddef yn ddigon o gosp am y trosedd; derbyniwyd ef yn ol i'r frawdoliaeth efrydol; ac ni chawsom ni, y dyfodiaid newydd, nemawr mwy o'i sylw. Yn y prawf hwn cymmerodd y brawd T. P. Price (Thomas Protheroe Price), oblegyd felly y gelwid ef y pryd hwnw, ran flaenllaw, ond nid wyf yn cofio pa ochr. O'r amser hwnw allan daeth Dr. Price yn wrthddrych neillduol fy sylw ar gyfrif ei ffraethineb, ei arabedd, ei wroldeb, ei symmudiadau gwenolaidd, ei garedigrwydd gwresog, ei fywiogrwydd rhyfedd, a'i feddwl amryddonol (versatile). Ar gyfrif y nodwedd olaf a ganfum yn ei gymmeriad, fy marn am dano yw, y gallasai enwogi ei hun mewn llawer maes heblaw yn y weinidogaeth. Gallasai wneuthur ystadegydd a chofrestrydd enwog, dadleuydd neu gyfreithiwr o fri, neu hanesydd neu wladweinydd o bwys a defnyddioldeb; ond y weinidogaeth Efengylaidd a ddewisodd efe, ac nid oes angen am dystiolaethau pa mor fawr yr enwogodd ei hun yn y maes hwn; y mae ei hanes a'r gwaith mawr a gyflawnodd yn Nghwm Aberdar, a'r enwogrwydd a ennillodd drwy Gymru benbaladr, a gwledydd ereill hefyd, yn brawfion digonol o hyny.

"Yr oedd un peth yn ei nodweddu yn arbenig, sef ei graffder meddyliol, a'r cyflymder gyda'r hwn y deallai unrhyw fater a ddygid ger ei fron, a chywirdeb y farn a ffurfiai am dano. Yr oedd y craffder hwn ynddo yn dwyn delw (intuition) y rhyw deg, y rhai, lawer o honynt, a welant drwy achos ar unwaith, heb drafferthu i fesur a phwyso, ac a ffurfiant farn gywirach yn fynych nag a wna y rhyw arall ar ol troi y peth yn eu meddwl am amser. Ni chymmerai Dr. Price ond ychydig funydau, ac yn aml ond ychydig eiliadau, i ffurfio barn ar achos dyrus, ac fynychaf, mewn naw achos o ddeg, yr oedd ei farn yn gywir Arweiniai y cyflymder hwn ef, er hyny, weithiau i wrthuni. Cof genyf am ddyfodiad y gair Saesneg telegram i arferiad cyffredin yn hanes rhyfel y Crimea. Yr oedd amryw o weinidogion Morganwg yn ei gwmni, ac un o honynt yn darllen hanes y rhyfel yn un o'r newyddiaduron, yn yr hwn yr arferid y gair crybwylledig. Gan fod ystyr y gair yn anadnabyddus, gofynodd rhywun beth oedd ei feddwl. Atebai Dr. Price, gyda'i barodrwydd arferol, mai newydd neu hyspysiad ydoedd yn cael ei drosglwyddo trwy arwyddion gweledig mewn manau cyhoeddus rhwng yr anfonydd a'r derbynydd, tebyg i'r pellebyr arddwyddonol (Semaphore Telegraph) oedd flynyddau yn ol ar Bengogarth ger Llandudno, a manau ereill ar arfordir Gogledd Cymru rhwng Caergybi a L'erpwl. Awgrymodd rhywun yn y cwmni fod ffurf