Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gysgadrwydd cyntefig," "amserau ystormus," am "aelodau grwgnachllyd," a "drain yn ystlys" y gweinidog. Arwyddion Gauafol ydynt y rhai hyn. Ni fu erioed galedach gauaf, ia ac eira oeraidd sydd yma, swn gwyntoedd ac ystormydd dinystriol. Ond er mor dywyll, nid oedd y Gwanwyn yn mhell. Yr oedd y dydd cyntaf o Ionawr, feddyliwn, yn broffwydoliaethol o agoriad gwell amser, a chyfnewidiad hapus i fod yn yr amgylchiadau. Yr oedd y dydd yn ymestyn; goleuni yn myned ar gynnydd. Yr oedd y Gwanwyn mwyn oedd yn dynesu yn dyfod a dylif o fywyd yn ei gol; yr oedd yr haul i wenu a gwresogi; anian i'w gwisgo yn ogoneddus yn ei mantell werdd, a'r Haf toreithiog fel brenin coronog y flwyddyn i wneyd ei ymddangosiad yn y man. Felly yr oedd ac y bu yn hanes Penypound yn ei chyssylltiad â'i gweinidog, Thomas Price. Oeraidd ydoedd ansawdd yr eglwys pan y cafodd hi. Ia rhynllyd difaterwch a chysgadrwydd wedi ei meddiannu, grwgnachrwydd a chwerylon teuluol mal chwäon gauafol yn deifio egni a pherlysiau gardd yr Arglwydd. Ond yr oedd dyfodiad Price ati, dan fendith Duw, i fod yn droad y dydd iddi; goleuni ysprydol i fyned ar gynnydd; Gwanwyn moesol i ymagor arni, a'r Arglwydd i "ollwng ei Yspryd i'w hadnewyddu fel gwyneb y ddaear," ac haul diwygiad a llwyddiant crefyddol i goroni ei lafur ef a'r eglwys. Am bwysigrwydd arbenig y cyfnod hwnw, ysgrifena y Dr. ei hun yn Juwbili Eglwys Calfaria:—"Ni fu eglwys erioed mewn sefyllfa mwy cyfyng i roddi galwad i weinidog nag oedd eglwys Aberdar yn y flwyddyn 1845. Gallasai camsynied y pryd hwnw fod yn andwyol i achos y Bedyddwyr am oes gyfan. Yr oedd eisiau cael y dyn iawn i'r lle priodol. Yr oedd Aberdar fel ardal yn myned i gynnyddu yn gyflym iawn—y trigolion yn amlhau—cymmydogaethau newyddion yn cyfodi—dyeithriad lawer yn tyru i'r lle—y llanw moesol yn dyfod i mewn yn donau mawrion—adeg bwysig i eglwys a gweinidog—naill ai cymmeryd gafael gref ar yr adeg, neu golli y cyfle am byth." Dywed Shakespeare:—

"There is a tide in the affairs of men,
Which, taken at the flood. leads on to fortune;
Omitted, all the voyage of their life
Is bound in shallows and in miseries."

Ni esgeulusodd y gweinidog ieuanc ei adeg, yr oedd yn