iadau naturiol yr amgylchiadau hyny. Ond yn aml codai cwmmwl uwch ei ben, hyd y cyflawnid ei broffwydoliaethau, yna gwasgarai y tew gymmylau, a chodai y Dr. yn uwch yn marn a theimlad y bobl. Cafodd fantais droion i egluro iddynt am eu hwyrfrydigrwydd i'w gredu, ac amddiffynai ei hun yn wrol yn ngwneb eu hymosodiadau annheg arno. Dywedai ei feddwl yn eglur a di-dderbyn-wyneb wrthynt, fel y cawn enghraifft yn a ganlyn. Ysgrifena dan y penawd awd "Y Glowyr," i Seren Cymru, am Mehefin 10fed, 1864, a dywed:—
"Nid ydym yn gwneyd ymddiheurad am gyflwyno ysgrif yn awr a phryd arall i sylw ein gweithwyr ar faterion ag ydynt yn dwyn cysylltiad arbenig â hwynt eu hunain. Yr ydym bellach yn gwybod trwy brofiad, mai gorchwyl anhyfryd yw hyn, gan ein bod wedi derbyn triniaeth arw—ac i'n tyb ni anhaeddiannol—am wneyd hyn. Mae yn wir fod storm yr Hydref wedi myned heibio: ond y mae yn ffaith alarus i feddwl, ei fod yn anhawdd i gyffwrdd â phwnc y gweithiwr a'r gwaith heb ir ysgrifenydd gael ei ddrwgdybio, a chael rhai i ddywedyd mai ochr y meistr sydd genym. Ond yn y cyffredin y mae yr hen esboniwr, Amser, yn dyfod a phethau yn iawn, ac yn dangos nad ydym wedi bob yn mhell o'n lle pan yn cynghori ein gweithwyr. Yr ydym ni yn gallu dywedyd yn ddigon eglur nad yw ein meistri yn ein dyled ni o ddim. ac nad ydym ninau yn nyled ein meistri o ddim. Yr ydym yn byw er lles a gwasanaeth y cyhoedd, ac yr ydym yn cael ein cynnal yn benaf gan y gweithiwr. Gyda y gweithwyr y byddwn yn llafurio gyda chrefydd, addysg, a'r cymdeithasau dyngarol. Os bydd rhagfarn yn ein meddwl, y mae o angenrheidrwydd i fod o du y gweithiwr. Yna pan fyddom yn ysgrifenu pethau croes i olygiadau y gweithwyr, yr ydym yn gwneyd hyny yn onest yr ydym yn credu, ac am hyny yr ydym yn llefaru. Mae yn wir y gallem fyw bywyd mwy tawel pe na byddai i ni gyffwrdd â materion ein gweithwyr; ond a fyddem ni yn gwneyd yn onest drwy ymddwyn felly? Na, credwn mai ein dyledswydd yw gosod ein barn o flaen ein gweithwyr, gan nas gall fod unrhyw niwed yn hyn, am y rheswm digonol y gall pob gweithiwr daflu ein barn a'n dywediadau oll i'r gwynt pan y myno."
Gyda hyn o arweiniad i'w ysgrif, ymafla y Dr. yn egniol yn y mater oedd ganddo ef dan sylw, sef "Cyfyngiad swm y gwaith gyflawnir gan bob glowr." Yn Seren Cymru am Rhagfyr y 16eg, 1864, cawn enghraifft arall i'r un cyfeiriad dan y penawd, "Seren Cymru a'r Glowyr":—