Cydaddolai y Bedyddwyr a'r Independiaid am dymhor ynddo; ond yn fuan, barnwyd mai gwell oedd i'r ddau enwad fod ar wahan. Mewn canlyniad i hyn, ymneillduwyd i breswylfa Lewis Richards, yn yr hwn le y cynnelid yr achos. Nid oedd ond y ddau frawd a enwyd yn aelodau yma hyd ddyfodiad brawd arall atynt o Gastellnedd o'r enw David Davies, yr hwn a elwid gan bobl Aberdar yn "Dafydd bach o'r nef." Yr oedd hwn yn wr o gymmeriad da a duwiol y tu hwnt i'r cyffredin. Yn y flwyddyn 1807, dechreuwyd yr Ysgol Sabbothol yn Aberdar gan nifer o ddynion ieuainc oeddynt yn aelodau yn Seion, Merthyr Tydfil, mewn ystafell berthynol i'r Farmers' Arms, yn nghanol y pentref. Yn fuan, symmudwyd yr achos o dŷ Lewis Richards i'r hen Town Hall, ac oddiyno drachefn, yn 1809, i ddau dŷ wedi eu rhentu gan Richards, y rhai a wnaed yn un er cynnal y gwasanaeth ynddo. Yn 1811, dechreuwyd meddwl am adeiladu capel newydd, a chychwynwyd y gwaith yn ddiymaros yn y man y saif Carmel, y capel Seisnig, yn bresenol, ac agorwyd ef yn 1812, hanner can' mlynedd i'r flwyddyn yr ysgrifenodd y Dr. Juwbili yr eglwys.
Yn y flwyddyn 1813, cafodd Mr. W. Lewis ei ordeinio yn weinidog ar yr eglwys; ond yn fuan, yn herwydd helbulon anffortunus y meistr a llwyr ymattaliad gwaith Abernant, ymadawodd Mr. Lewis, a rhoddodd i fyny ofal yr eglwys. Cawn fod Mr. Richard Hopkins yn cael ei ordeinio i'r weinidogaeth yn 1820. O'r flwyddyn 1823 hyd 1826, bu yr eglwys yn cael ei bugeilio gan y diweddar William Williams o'r Paran. Yn y flwyddyn 1826, dychwelodd Lewis drachefn i Aberdar, ac ail-gymmerodd ofal yr eglwys hyd y flwyddyn 1845, pryd y symmudodd i gymmeryd gofal gweinidogaethol Eglwys Tongwynlas. Yn y flwyddyn hono, fel y nodasom o'r blaen, rhoddwyd galwad unfrydol i Thomas Price; ymsefydlodd yma, a bu yn weinidog iddi hyd ei ddyrchafiad i'w orsedd a gwisgiad ei goron yn ngwlad yr aur delynau. Yn y flwyddyn gyntaf o'i weinidogaeth yn Mhenypound, dywedai y Dr. mai araf iawn oedd symmudiad y gweinidog a'r eglwys. Ychydig dir newydd a ennillwyd ganddynt, er fod y gwrandawyr yn cynnyddu a'r Ysgol Sul yn bywiocau. Yn ystod y flwyddyn hon, cafodd y gweinidog ieuanc y fraint a'r anrhydedd o fedyddio pedwar—dau o'r cyfryw oeddent yn aros pan ysgrifenodd y Dr. yr hanes yn ei Juwbili, sef Mr. David