Rhyd Goch yn eithaf da, gan fy mod wedi gwneyd yr orchest o gario "ystol mam" ar draws yr aelwyd. Dyna yr holl adgofion a feddaf am y tymor hwn. Ni wn ddim ymhellach, ond a glywais am ei wasgfeuon, ei wendid, ei ddagrau, a'i beryglon. Ni wn ddim am fy mod ar fin syrthio i lyn y Ddolgaled a boddi, ac mai mam fy nghyfaill Edward Roberts, Cwmafon, a'm hachubodd, er i hynny ddigwydd. "Nid oes rhith nac eilun cof," yn aros am fy ngwenau na'm dagrau cyntaf. Suwyd fi gan fy mam, ond nis gwybuwn; magwyd fi gan fy nhad, a chusanwyd "y bachgen bach" gan ei frawd, ond am yr holl bethau hyn nid oes un crybwylliad ar ddalen cof. Ar ol hyn y dechreua fy adgofion o'r anwyldeb a'r blinder, o'r hyfrydwch a'r gofid, o'r poen a'r pleser, o'r cystudd a'r iechyd a hynodent ddyddiau fy mebyd. Ni bum erioed yn ddigon cryf i beidio teimlo gwendid, nac yn ddigon llon i fod yn anwybodus o dristwch. Dechreuais gydnabyddiaeth â'r cymylau yn foreuach nag â'r heulwen, a gwn fwy am y gauaf nag am yr haf. Ond er mor siomedig yw bywyd, teimlir ymlyniad wrtho; er amled ei ystormydd, ni ddymunir dianc o'u cyrraedd i ogof y bedd. Glynir wrtho, ymsefydla y meddwl arno, a gwna hyd yn oed adgofion chwerwder, yn gystal a phleserau mebyd, ei ddwyn i'w garu yn fwy anwyl.
"IFAN TY CROES."
(Darlun Robert Oliver Rees o'r bachgen Ieuan Gwynedd.)
[A gawn ni wahodd y darllennydd i ddyfod ar adenydd dychymyg yma i Ddolgellau ar yr uchel wyl gyntaf gofiadwy, Mawrth 27, 1837? Mae holl ddirwestwyr y cylch wedi dyfod yn lluoedd banerog i'r dref. Mae y dref oll yn oddaith gan y tân dirwestol. Dyma o ddwy i dair mil o feibion a merched brwdfrydig Dirwest, yn un gosgorddlu trefnus, yn amgylchu y garreg feirch ar y Stryd Fawr, ac yn cydganu, cyn i un o wroniaid dirwestol Cymru esgyn arni i'w gwefreiddio âg araeth drydanol. Maent yn canu y gydgan,—
"Cawn ganu Haleluia, cyn bo hir,
Adseinio per Hosanna, cyn bo hir,
Llais dirwest wedi darfod
Mewn canmol am y cymod;
Pa bryd y gwawria'r diwrnod? Cyn bo hir.