Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'r flwyddyn 1654 neu 1655, yn y gyntaf o'r rhai y dechreuodd Powell newid ei farn am fedydd, ac yn yr olaf y bedyddiwyd ef drwy drochiad. Parhaodd y cymysgedd hwn o daenellwyr a throchwyr yn eglwys Llanbrynmair, y Scafell, ac eraill am hir flynyddoedd; ac och! na feddianasai yr eglwysi ar ddigon o ras i ymgadw hyd yma yn undeb y ffydd. Gan ein bod ar dir tebygolrwydd, gallwn grybwyll eto fod yn debyg iawn i eglwys fechan y Bala fwynhau gweinidogaeth Hugh Owen o Fron y Clydwr, yn ei gylchdeithiau apostolaidd am y tymor hirfaith rhwng 1662 a 1699, pryd yr hunodd yr athraw parchedig. Beth a ddaeth o'r ychydig braidd yn yr anialwch am y deugain mlynedd dyfodol, nis gwyddom; ond yn fuan ar ol hynny yr ydym yn cael y llafurus Lewis Rees o Lanbrynmair, yn rhwymo y gorsen ysig, ac yn tywallt olew ar y llin oedd yn mygu; ac o'r pryd hwnnw hyd yr awr hon, mae "y berth yn llosgi, ond heb ei difa."

Mewn perthynas i'r Crynwyr, yr oeddynt yn dra lluosog ym Mhenllyn, ac yn 1675, erlidid hwy yn drwm. Yn y flwyddyn hon, cedwid rhai o'r cyfarfodydd yn nhy Thomas Cadwaladr o'r Wern Fawr. Rhoddid gwarantau allan yn eu herbyn gan y Milwriad Price o'r Rhiwlas, a'r Milwriad Salisbury o Rug. Dyn o'r enw Robert Ifan oedd cyhuddwr y brodyr y pryd hwnnw. Ymhen amser ar ol hyn, llwyddodd Richard Davies, drwy Iarll Powys, i gael gan Duc Beaufort, Arglwydd Lywydd Cymru, ysgrifennu llythyr at y Milwriad Price i'w wahardd i erlid mwyach. Yr oedd yr eiddo a gymerid oddiar y Crynwyr yn cael ei rannu rhwng y brenin a'r achwynwr; a phan ddarfu gwaith Robert Ifan, aed i edrych dros ei gyfrifon; ond yr oedd Robert, druan, wedi gwario rhan y brenin, fel nad oedd ganddo ddigon braidd i dalu, drwy yr hyn y syrthiodd i'r tlodi y buasai mor awyddus i wthio eraill iddo. Yn fuan ar ol hyn, erlidiwyd hwy gan Price, offeiriad Llanfor, am y degwm; ond llwyddodd medrusrwydd cyfreithiol Richard Davies i drechu mab Lefi, er hired dannedd ei gigwain. Yn 1677, darfu i'r Barnwr Walcott fygwth crogi y Crynwyr yn y Bala, a llosgi eu gwragedd am deyrnfradwriaeth, oherwydd eu bod yn gwrthod cymeryd llwon ufudd-dod a breinioliaeth. Trwy ymdrechion R Davies, Thomas Lloyd o Dolboran, a'r Dadleuydd Corbett o'r Trallwm, diddymwyd y ddeddf drwy yr hon y bwriadai Walcott gael ei wynfyd arnynt yn yr eisteddfod honno o'r Senedd. Gan fod y Crynwyr wedi darfod o gymydogaethau y Bala a Dolgellau, lle y buont unwaith yn dra lluosog, mae yn ddiau i hynny gael ei brysuro