Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y bwthyn wedi ei ysgubo yn drefnus, y tân yn loewach nag arferol, a chanwyll wêr yn barod yn rhyw ran neu gilydd o'r tŷ. Mae Beibl a'r Llyfr Hymnau ar y bwrdd; a chyn hir, darllennir y bennod, rhoddir allan yr emyn, cenir y mawl, ac aberthir y weddi. Nid yw yr addolwyr yn gyfarwydd â llawer o donau, ac ni ddefnyddiant amrywiaethau mawr o fesurau. Mae "Talybont" a'r "Hen Ganfed" ymysg y rhai mwyaf arferol. A phan wrandewir arnynt yn canu

"Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau
Nid oes neb a ddeil fy mhen,"

neu,

"Mae nghyfeillion wedi myned,
Draw yn lluoedd o fy mlaen,"

mynych y gellir meddwl eu bod wedi cael benthyg

"Swn telynau'r saint,"

neu eu bod am ennyd wedi eu cipio i fyny hyd ym Mharadwys. Ac wedi i'r ban olaf gael ei ddyblu a'i dreblu yn yr emyn, hwy a droant bawb i'w ffordd ei hun, weithiau yn nhywyllwch y ddunos, ac weithiau is pelydr y lloer. Ni ymdrafferthant hwy i esbonio deddfau anian pan ruo y daran uwchben, ond gwyddant y "gwna efe daranu â'i lais yn rhyfedd." Gall y fellten wau o'u hamgylch heb iddynt feddwl am ddim ond yr Hwn sydd yn "gwneuthur ffordd i fellt y taranau." Pan siglo y corwynt eu bythod, meddyliant am yr Hwn sydd yn "marchog ar ei adenydd." A phan ddisgynna y curwlaw yn bistylloedd llifeiriol, eithaf nôd eu hathroniaeth ydyw meddwl am "wlaw mawr ei nerth ef." Gwened y neb a ewyllysio ar y bywyd hwn, y mae yn fywyd dedwydd. Bywyd ydyw sydd yn gloewi cyneddfau, ac yn llonni ysbryd ei feddianwyr. Hebddo buasai gwlad fynyddig fel Cymru yn druenus. Ni buasai pobl Blaen y Cwm na theulu Ty'n y Mynydd nemawr uwch taw barbariaid. Ond y mae Cymru, gyda'i Beibl, ei salmau, hymnau, ac odlau ysbrydol, yn meddu ar elfennau gwir wareiddiad ac enwogrwydd, er ei holl anfanteision a'i diffygion. Hir, hir, mor hir ag einioes y ddaear, y blaguro crefydd ym mynyddoedd Cymru