Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

III. ADDYSG MERCHED.

Nid ar fara a chaws ac ymenyn yn unig y bydd byw dyn. Mae ar y meddwl eisieu gwybodaeth; ac os bydd y fam a'r famaeth yn amddifad o hono, cyfyd cenedl o dan eu dwylaw, fel trigolion Ninife, heb wybod rhagor rhwng y llaw ddeheu a'r llaw aswy. Er mor ddymunol ydyw gweled yr hosanau yn nwylaw diwyd rhianod a hynafwragedd ein gwlad, byddai yn dra dymunol hefyd gweled y llyfr yno yn achlysurol. Gwir y gwelir Beibl yn fynych ar dalcen y bwrdd, pan y bydd y bysedd yu prysur drin y pwythau er gweu y gam—redynen ar feilwng yr hosan. Llyfr y llyfrau ydyw y Beibl. Efe ydyw Arglwydd y lluoedd ym meusydd llenyddiaeth; ond dylai ein merched wybod am lawer o bethau pwysig eraill. Llyfr enaid yw y Beibl; yr arweinydd i fyd arall ydyw. Ond cyn cyrraedd i'r byd hwnnw rhaid i ni deithio drwy y byd yma. Dysgir iaith Canan ganddo ef a chanddo ef yn unig. Ond cyn y bydd ein traed yn y wlad sydd yn llifo o laeth a mêl, mae yn rhaid i ni fyned drwy yr anialwch a rhosydd Moab. Eto ofnwn fod llawer o'n mamau a'n merched heb wybod digon am hanesyddiaeth y Beibl. Nid ydynt wedi talu ond ychydig sylw i'w. ddaearyddiaeth, i'w fywgraffyddiaeth, ac i'w hanesyddiaeth. Gofidiwyd ein henaid lawer gwaith wrth wrando ar rieni—crefyddol mewn enw—yn difyrru eu plant â gwrachïaidd chwedlau am ysbrydion a thylwyth teg, ac ellyllon cyffelyb. Os oes eisieu difyrru plant â hanesion, pa le y ceir llyfr tebyg i'r Ysgrythyrau? O hanes Cain, a Joseff, a Moses, a Samuel, a Josiah, hyd ddyddiau y plentyn Iesu, y mae yn gorlifo o hanesion llawn o duedd i fagu hynawsedd, tynerwch, tosturi, a theimlad. Gallwn gymhwyso geiriau Iesu Grist ato, a dywedyd,—"Y cynhauaf yn wir sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml." Pe byddai i rianod ein gwlad dalu mwy o sylw i'r Hen Destament nag i chwedlau caru, a meddwl mwy am y Newydd nag am wisgoedd newyddion, byddai o fudd anrhaethadwy iddynt eu hunain, ac i'r rhai a ddichon Ragluniaeth eu gosod o dan eu gofal. Truenus meddwl y bydd meddyliau mor dlodion, mor wag, mor anial, ac mor ddiffrwyth a'r eiddo llawer merch ieuanc, yn fuan yn